Maen nhw wrthi unwaith eto. Y bobl sy’n credu y dylai pawb fod yn union yr un fath â’i gilydd. Y bobl sy’n credu mai nhw yn unig sy’n gwybod sut i fyw bywyd moesol, dilychwyn. Y bobl sy’n credu eu bod yn well na phawb arall. Y bobl sy’n credu bod ganddyn nhw hawl ddiymwad i feirniadu eraill a’u collfarnu am fod mor hy’ â bod yn wahanol iddyn nhw.