Fe ddaeth hen ffrind i aros gyda ni dros y penwythnos o Bournemouth. 183 o filltiroedd, sy’n dipyn o ffordd. Fe stopio nhw unwaith, i dorri’r daith.

Nid er mwyn bwyta, neu ymestyn eu coesau, neu yn benodol i fynd i’r tŷ bach, ond er mwyn llenwi’r bateri.

Mi oedd y car oedd ganddyn nhw – Nissan Leaf – ond yn gwneud tua 110 o filltiroedd i’r ‘llenwad’, ac felly oedd rhaid stopio ar y ffordd i dopio’r batri i fyny.