Mae albwm newydd James Dean Bradfield yn adrodd hanes canwr a bardd gafodd ei arteithio yn arw cyn cael bwled i’w ben…

Mae’r bardd Patrick Jones yn dweud iddo gael ei ysbrydoli gan “gerddor y bobol” i lunio geiriau caneuon albwm newydd James Dean Bradfield, canwr y Manic Street Preachers.

Yn frawd i basydd y Manics, Nicky Wire, mae Patrick Jones wedi cydweithio ar albwm unigol gyntaf James Dean Bradfield ers 2006.