Mae Mark Drakeford wedi ymbil ar bobol y Cymoedd i gadw at reolau Covid-19, gan bwysleisio bod modd osgoi gosod rhagor o gyfyngiadau yno.
Ar ddechrau’r wythnos cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y byddai cyfyngiadau llym yn cael eu cyflwyno yn ardal Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili.
Daeth hyn yn sgil naid mewn achosion yno, a bellach mae pryderon am y sefyllfa yn ardaloedd cynghorau Rhondda Cynon Taf (RCT) a Merthyr Tudful – lle mae achosion hefyd wedi cynyddu dipyn.
Bellach mae rhagor o reolau wedi’u cyflwyno yn yr ardaloedd yma er mwyn osgoi cyfyngiadau llymach fyth, a phrynhawn heddiw galwodd y Prif Weinidog ar bobol i gadw at y rheolau newydd yma.
“Wnaeth y tîm achosion lleol – sy’n ein cynghori ni – gwrdd ddoe,” meddai. “Wnaethon nhw gefnogi’r mesurau lleol mae arweinwyr cynghorau wedi cyflwyno yn RCT a Merthyr.
“Dw i’n atseinio hynny trwy erbyn ar bobol leol yn yr ardaloedd yna i gadw at y cyngor maen nhw wedi ei dderbyn.
“Os wawn nhw hynny maw’n bosib y gallwn osgoi mesurau llymach cenedlaethol er mwyn delio â’r naid mewn achosion.”
Caerffili a’r ffatrïoedd
Daeth y sylwadau yn ystod cynhadledd i’r wasg, ac yn ystod y sesiwn holwyd pam bod awdurdodau wedi methu cadw rheolaeth ar y sefyllfa yng Nghaerffili.
Tynnwyd sylw at y ffaith bod sawl naid mewn achosion wedi’u rheoli wythnosau yn ôl yn Ynys Môn, Wrecsam, a Merthyr Tudful – neidiau mewn achosion ymhlith gweithwyr ffatrïoedd oedd y rhain.
Mynnodd Mark Drakeford bod yna “wahaniaeth pwysig iawn” rhwng yr achosion yma, a Chaerffili.
“Pan mae haint yn lledaenu tu hwnt i safle penodol, neu grwpiau penodol o bobol, mae’n rhaid i chi gyflwyno mesurau y mae’n rhaid i’r boblogaeth ehangach gydymffurfio â nhw,” meddai.
“Dyna sydd wedi digwydd yng Nghaerffili. Dydyn ni ddim yn delio â ffatri benodol, neu weithle, neu grwpiau penodol o bobol yno mwyach.
“Mae gennym lefelau o ledaeniad cymunedol a fydd ond yn medru cael ei ddelio ag ef trwy weithredu cymunedol.”
Y Cymoedd dan glo
Bellach yn ardal Caerffili dyw aelwydydd estynedig ddim yn cael cwrdd, dydy ffrindiau a theulu ddim yn cael treulio’r nos yn nhai ei gilydd, a does dim hawl gan drigolion i adael yr ardal heb reswm da.
Yn ardal RCT a Merthyr Tudful mae’r rheolau isod bellach wedi’u cyflwyno:
- Defnyddiwch drafnidiaeth gyhoeddus dim ond pan mae’n rhaid;
- Gweithiwch o adre dros yr wythnosau nesa’ os allwch chi;
- Gwisgwch fasg yn y gweithle, mewn archfarchnadoedd, ac mewn llefydd llawn pobol dan do;
- Peidiwch ymweld â chartrefi gofal.
Rheolau i bawb
Yn ystod y gynhadledd i’r wasg wnaeth Mark Drakeford gyhoeddi rheolau newydd y dylid pawb yng Nghymru gadw atyn nhw.
O ddydd Llun ymlaen bydd yn rhaid i bobol wisgo mygydau mewn siopau, a dim ond chwe pherson (o’ch rhwydwaith o aelwydydd) fydd yn cael ymgynnull.
Dan do bydd yn dal modd i hyd at 30 ymgynnull. Pwysleisiodd hefyd y dylai pobol weithio o adre pan fo hynny’n bosib.