Mae caffis yng Nghaernarfon yn poeni y bydd sefydlu caffi newydd yng Nghastell Caernarfon yn cael effaith negyddol ar eu busnesau.

Dywedodd perchennog Caffi Maes yng Nghaernarfon wrth golwg360 fod yr arian cyhoeddus mae Cadw yn ei dderbyn i redeg y castell yn arwain at “gystadleuaeth annheg”.

“Dw i erioed wedi poeni am gystadleuaeth deg, ond y broblem sydd gen i ydi bod arian cyhoeddus yn golygu bod Cadw’n cystadlu’n annheg yn erbyn pobol sy’n talu trethi ac yn ariannu nhw i bob pwrpas,” meddai Richard Tudor Hughes.

“Mae ganddyn nhw gyfraith eu hunain sy’n annheg, maen nhw’n cael gwneud pethau fasa busnesau eraill byth yn cael gwneud ac mae troi un o dyrau Castell Caernarfon yn gaffi yn enghraifft o hynny.

“Maen nhw’n dweud wrtha i mai dim ond chwe bwrdd fydd yno, ond mae hynny yn chwe bwrdd yn llai i gaffis eraill.

“Busnes ydi Cadw, ylwch ar Gastell Harlech… maen nhw wedi adeiladu caffi enfawr yna.

“Nid yn unig maen nhw’n cael arian cyhoeddus ond hefyd yn dwyn arian a chwsmeriaid busnesau lleol.

“Waeth i ni stopio smalio mai elusen sy’n gwarchod safleoedd hanesyddol ydi Cadw, busnes ydyn nhw.”

“Mi fasa ti’n disgwyl i Cadw ystyried yr effaith ar fusnesau bach” 

Mae un o’r teulu sy’n rhedeg y caffi gyferbyn â’r fynedfa i Gastell Caernarfon wedi dweud wrth golwg360 ei fod yn gofidio y bydd caffi newydd yn y castell yn “dwyn ein cwsmeriaid”.

Mae teulu Daniel Gray-Thomas wedi rhedeg busnes Gray-Thomas ers 1924, gan ei addasu yn gaffi yn 2013.

Dywedodd wrth golwg360 nad yw Cadw wedi “ystyried effaith [y caffi newydd] ar fusnesau bach” yr ardal.

“Dyw Cadw heb gysylltu efo’r un caffi yng Nghaernarfon i drafod agor caffi a gofyn am ein barn ni, ac mi fasa ti’n disgwyl iddyn nhw o leiaf trafod y peth ac ystyried yr effaith bydd hyn yn cael ar fusnesau bach,” meddai.

“Mae cystadleuaeth yn un peth, ond rydan ni’n dibynnu ar bobol sy’n ymweld â’r Castell, does yna ddim gwadu bod pobol sy’n mynd i’r castell yn dod i fan hyn.

“Ar ben hynny, dw i’n deall y byddan nhw’n cau prif fynedfa’r castell tra eu bod yn adeiladu, felly bydd hynna’n cael effaith arnom ni hefyd.

“Pwrpas Cadw ydi gwarchod safleoedd hanesyddol, felly dw i ddim yn siŵr pam bod angen adeiladu caffis ac ati.”

“Ni ddylai effeithio’n ormodol ar fusnesau” 

Mae’r Cynghorydd Ioan Thomas, sy’n Aelod Cabinet dros Gyllid ar Gyngor Gwynedd, wedi dweud wrth golwg360 na ddylai’r caffi newydd “effeithio’n ormodol ar fusnesau”.

“Mae Cadw wedi bod yn ystyried darpariaeth caffi yn y Castell ers blynyddoedd,” meddai.

“Darpariaeth fechan iawn ydi’r caffi a ni ddylai effeithio yn ormodol ar y busnesau, ond dw i’n cydnabod fod darparu caffi ar y safle yn creu pryder i fusnesau yn y dref.”

Y Cynlluniau

Mae’r cynlluniau ar gyfer y castell, sy’n denu oddeutu 200,000 o ymwelwyr y flwyddyn, yn cynnwys caffi newydd a lifft i fynd ag ymwelwyr i rannau sydd heb eu gweld o’r blaen, tra bod mesurau newydd i wella profiad ymwelwyr hefyd o dan ystyriaeth

Cafodd rhan gyntaf y cynllun £3.3miliwn ei gymeradwyo’r llynedd, ac mae’n cynnwys sefydlu adeiladau dros dro o fewn muriau’r castell er mwyn clirio Porth y Brenin cyn y gallai’r prif waith adeiladu ddechrau.

“Bydd y prosiect yn caniatáu i waith cadwraeth sylweddol gael ei wneud i’r porthdy, gan gynnwys dileu unrhyw ymyraethau blaenorol,” meddai’r cynllunwyr.

“Yn ogystal, mae gwaith archeolegol gafodd ei wneud yn y gwaith paratoadol i ddarparu cyfleusterau wedi cynyddu’r ddealltwriaeth o’r Ward Isaf ac ardaloedd y tu allan i Dŵr yr Eryr, a bydd hynny’n gwella’r dehongliad ac esboniad o’r safle cyfan.”

Bydd adran gynllunio Cyngor Gwynedd yn ystyried y cais cynllunio ar gyfer y caffi yn y misoedd nesaf.

Ymateb Cadw

Dywedodd llefarydd ar ran Cadw:

“Mae’r cais cynllunio efo Cyngor Gwynedd. Y gobaith yw, os fydd y cais yn cael ei dderbyn, y bydd mwy o bobl yn ymweld a’r castell, Caernarfon a’r caffis lleol.

“Byddwn yn edrych am gwmni lleol i redeg y busnes ac am weithio efo busnes lleol fel rydym wedi gwneud yn llwyddiannus iawn yn Harlech, efo perchenog caffi lleol nawr yn rhedeg caffi yn y dre ac ail gaffi yn y castell.”