Mae teulu dyn fu farw mewn damwain draffig yn Ffordd Afan, Port Talbot, wedi talu teyrnged i’w “harwr”.

Yn dilyn gwrthdrawiad ar gyffordd Ffordd Afan a Ffordd Victoria brynhawn dydd Mawrth (8 Medi), bu farw Darren Williams, a oedd yn 49 oed.

Mae’r teulu wedi rhyddhau’r deyrnged ganlynol:

“Ein dabsy, ein harwr, tad a gŵr heb ei ail.

“Roedden ni ei deulu’n ei garu a’i werthfawrogi, fe wnaeth fyw bywyd llawn ac roedd yn falch o’i lwyddiannau.

“Roedd yn ffrind gorau i’w fab, Cameron – hedfana’n uchel dad.”

Mae’r heddlu yn archwilio’r gwrthdrawiad.

Hoffai Heddlu De Cymru siarad ag unrhyw un oedd yn dyst i’r digwyddiad, unrhyw un a all fod wedi recordio’r gwrthdrawiad, neu unrhyw un all dystio i’r modd yr oedd y gyrwyr yn dreifio cyn y ddamwain.