Bydd rhai o gemau rygbi Cymru yn cael eu dangos ar Channel 4 ac Amazon Prime, ond nid ar S4C na’r BBC.

Mi fydd Iwerddon v Cymru i’w gweld ar Channel 4 ar Dachwedd 13, a Chymru v Lloegr ar wasanaeth ffrydio Amazon Prime ar Dachwedd 28.

Mae’r gemau yn rhan o Gwpan Cenhedloedd yr Hydref, sy’n disodli gemau cyfeillgar arferol yr Hydref.

Cafodd y bencampwriaeth newydd ei chreu gan Rygbi’r Chwe Gwlad.

Mae disgwyl i wyth gwlad gystadlu, sef gwledydd y Chwe Gwlad a Georgia a Ffiji, a bydd pedair rownd y bencampwriaeth yn cael eu cynnal dros bedwar penwythnos.

Gêm rhwng Iwerddon a Chymru fydd yn agor y gystadleuaeth yn Stadiwm Aviva, Dulyn, ar nos Wener, Tachwedd 13 – a bydd posib ei gwylio ar Channel 4.

Bydd Channel 4 yn darlledu uchafbwyntiau’r holl gemau, gan gynnwys Cymru v Lloegr.

Partneru

Daw’r darllediadau fel rhan o bartneriaeth rhwng Channel 4 ac Amazon Prime Video.

“Rydym wrth ein boddau ein bod wedi partneru ag Amazon er mwyn darlledu’r bencampwriaeth anhygoel hon,” meddai Pete Andrews, pennaeth chwaraeon Channel 4.

“Mae’n wych gallu lansio’r bencampwriaeth drwy ddangos gêm Iwerddon v Cymru yn fyw.”

Bydd posib gwylio gweddill gemau’r bencampwriaeth ar Amazon Prime, gan gynnwys gemau Cymru v Georgia (21 Tachwedd) a Chymru v Lloegr (28 Tachwedd).

Mae gornest ola’r Cymry ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad, a ddaeth i stop oherwydd y pandemig, yn cael ei chwarae ar Hydref 31.

Bydd Cymru gartref yn erbyn yr Alban, gyda’r gic gyntaf am 2.15 y p’nawn a’r holl firi yn fyw ar S4C.