Doedd 34 Timm van der Gugten ddim yn ddigon i achub y gêm i Forgannwg wrth iddyn nhw golli o 13 o rediadau yn erbyn y Birmingham Bears yn eu gêm ugain pelawd yn y Vitality Blast yn Edgbaston.
Dim ond Will Rhodes, capten y Bears oedd wedi sgorio 46 – ei sgôr ugain pelawd gorau erioed – oedd wedi perfformio gyda’r bat i’r Saeson, er i Olly Stone daro 22 oddi ar 18 o belenni yn niwedd y batiad i sicrhau sgôr parchus i’r tîm cartref.
Nod gymharol fach o 143 oedd ganddyn nhw, ond fe wnaeth y batwyr fethu â manteisio ar hynny, gan golli wicedi’n rhy aml fel bod angen i Forgannwg ddibynnu ar y bowlwyr gyda’r bat yn niwedd yr ornest.
Bowliodd Tim Bresnan yn gywir gan gipio tair wiced am 26 wrth i Forgannwg gwrso’n aflwyddiannus, gyda’r troellwr llaw chwith Jake Lintott yn cipio tair wiced am 11 – y ffigurau mwyaf economaidd yn hanes y gystadleuaeth i’r Bears.
Bowlio campus Morgannwg
Roedd penderfyniad y Bears i fatio ar ôl galw’n gywir yn edrych fel yr un anghywir pan gipiodd y troellwr llaw chwith Prem Sisodiya wiced yn y belawd gyntaf wrth iddo ddal Dom Sibley oddi ar ei fowlio’i hun.
Cwympodd dwy wiced arall yn y cyfnod clatsio, gydag Ed Pollock wedi’i ddal gan Chris Cooke y tu ôl i’r wiced oddi ar fowlio van der Gugten, cyn i Sam Hain gael ei daro ar ei goes o flaen y wiced gan Ruaidhri Smith, a’r Bears yn 41 am dair ar ôl chwe phelawd.
Cafodd Adam Hose ei ddal gan Smith ar y ffin wrth yrru Salter i’r ochr agored, ac roedd y Bears yn 71 am bump pan gafodd Michael Burgess ei ddal ar ochr y goes gan Callum Taylor oddi ar yr un bowliwr, a hynny’n fuan ar ôl i’r un maeswr ei ollwng.
Roedd y tîm cartref mewn dyfroedd dyfnion erbyn hanner ffordd, gyda’r sgôr yn 72 am bump, ond daeth y capten Will Rhodes a Henry Brookes ynghyd i sgorio 36 oddi ar 25 o belenni i godi’r momentwm eto cyn i Rhodes gael ei redeg allan yn mynd am ail rediad annhebygol, a Brookes wedyn yn cael ei ddal gan Owen Morgan oddi ar fowlio van der Gugten.
Jake Lintott oedd y nawfed batiwr allan, wedi’i ddal gan Cooke oddi ar fowlio van der Gugten ond doedd cyfanswm y Bears, 142 am naw ddim yn edrych yn ddigon o bell ffordd.
Pwysau ar y batwyr o’r dechrau’n deg
Os oedd y nod yn edrych yn un gyraeddadwy i Forgannwg ar ddechrau’r batiad, roedd cryn dasg o’u blaenau erbyn diwedd y cyfnod clatsio ar ôl colli Nick Selman a David Lloyd, y gogleddwr oedd yn dychwelyd am y tro cyntaf ar ôl torri asgwrn yn ei droed.
Bowliodd Tim Bresnan bedair pelawd o’r bron ar ddechrau’r batiad, gyda Selman, Lloyd a Cooke yn cael eu dal yn y cylch o fewn 6.5 pelawd, a Morgannwg wedi sgorio 47 yn unig.
Tarodd y Gwyddel Andrew Balbirnie 30, gan gynnwys dau bedwar ac un chwech, oddi ar 29 o belenni i gynnig llygedyn o obaith i Forgannwg, ond roedden nhw’n dal i golli wicedi’n rhy aml y pen arall i’r llain.
Cafodd Marchant de Lange ei ddyrchafu’n aflwyddiannus wrth iddo gynnig daliad i Lintott oddi ar ei fowlio’i hun, a chafodd Owen Morgan ei ddal ar y ffin gan Adam Hose wrth yrru Ollie Stone yn syth ar ochr y goes.
Aethon nhw o 79 am bedair i 83 am wyth ar ôl colli Balbirnie wrth sgubo pelen gan Lintott at Stone, cyn i Callum Taylor a Smith gael eu bowlio gan Lintott hefyd.
Brwydrodd Salter a van der Gugten yn ddewr tua’r diwedd, ond roedd y nod o 28 oddi ar chwe phelen ola’r batiad yn ormod iddyn nhw.
Mae’r canlyniad yn gadael Morgannwg yn bumed yn y tabl o chwe thîm cyn croesawu Swydd Northampton i Gaerdydd ddydd Sul (Medi 13).