Mae Cymdeithas Bêl-Droed Cymru wedi cyhoeddi eu bod yn gohirio’r gêm uwch-gynghrair Cymru rhwng Sir Hwlffordd a Derwyddon Cefn, ar ôl i Dderwyddon Cefn dorri canllawiau ar gyfer lleihau’r risg o ledaenu’r coronafeirws.

“Prif nod canllawiau’r ‘Protocol Chwarae Diogelach’ yw diogelu iechyd a diogelwch pawb sy’n ymwneud â gemau uwch-gynghrair Cymru,” meddai llefarydd ar ran y Gymdeithas.

“Rhaid i’r canllawiau hyn gael eu dilyn er mwyn sicrhau y gellir cynnal gemau’n ddiogelu yn ystod y pandemig Covid-19.”

Ychwanegodd fod Derwyddon Cefn wedi cael eu hatgoffa o’u dyletswyddau a’u cyfrifoldebau i’r uwch gynghrair ac i bêl-droed yng Nghymru.