Cafodd y Seintiau Newydd fuddugoliaeth ysgubol yn y Barri trwy guro’r tîm cartref o 3 gôl i ddim y pnawn yma, ar ddiwrnod cyntaf tymor newydd Uwch Gynghrair Cymru.

Yr ymwelwyr aeth â hi yn Aberystwyth hefyd wrth i Met Caerdydd eu curo o 3 gôl i 2. Dyma’r gêm a welodd fwyaf o goliau o’r pedair gêm sydd wedi ei chwarae hyd yma heddiw.

Enillodd y Fflint gartref o 1 gôl i 0 yn erbyn y Drenewydd, a chyfartal oedd y sgôr rhwng Tref Caernarfon a Penybont yn yr Oval, gyda’r ddau dîm yn sgorio un gôl yr un.

Yr unig gêm arall fydd yn cael ei chwarae heddiw fydd yn un yng Nghei Connah yn erbyn Tre’r Bala am 17.45. Cafodd y gêm rhwng Sir Hwlffordd a Derwyddon Cefn ei gohirio oherwydd i’r Derwyddon fynd yn groes i ganllawiau coronafeirws Cymdeithas Bêl-droed Cymru.

Fe fydd y pedair gêm nesaf yn cael eu chwarae nos Fawrth.