Sgoriodd Morgan Gibbs-White unig gôl yr ornest yn ei gêm gyntaf i dîm pêl-droed Abertawe – ar fenthyg o Wolves – wrth iddyn nhw gipio triphwynt gwerthfawr oddi cartref yn Preston gyda buddugoliaeth o 1-0.
Daeth y croesiad gan Jake Bidwell, un o berfformwyr gorau’r Elyrch, wyth munud wedi’r egwyl ar ôl hanner cyntaf digon pytiog.
Daeth sawl hanner cyfle yn gynnar yn yr ornest ond fawr o fygythiad o flaen y gôl am gyfnodau hir cyn yr egwyl, er i Jake Bidwell daro sawl croesiad peryglus i mewn i’r cwrt cosbi a gweld ergyd yn cael ei hatal ar y llinell ger y postyn pellaf.
Daeth cyfle mawr i Jamal Lowe ar ôl 32 munud, wrth i Andre Ayew ddefnyddio’r asgell i ymosod ar yr ochr chwith ond arhosodd amddiffyn Preston yn gadarn.
Dechreuodd yr Elyrch yr ail hanner yn gryf, wrth i Bidwell ymosod unwaith eto o’r asgell a darganfod Andre Ayew yn camsefyll wrth rwydo.
Cyfunodd y ddau eto i roi’r Elyrch ar y blaen o fewn munudau, gyda Gibbs-White yn rhwydo gyda chyfle o’r tu mewn i’r cwrt cosbi.
Peniodd Bidwell gyfle arall dros y trawst yn fuan ar ôl creu’r gôl, cyn i Preston gael cyfle prin y pen arall o fewn munudau, gyda Freddie Woodman yn gorfod arbed ergyd Tom Barkhuizen.
Magodd Preston rywfaint o hyder wedyn, gan roi’r Elyrch dan bwysau am y tro cyntaf yn y gêm, ond Bidwell oedd yno’n amddiffynnol y tro hwn gyda’i ben i atal Brad Potts rhag rhwydo foli o’r croesiad.
Dyma’r tro cyntaf i’r Elyrch ennill yn Deepdale ers 2008.
Mae’r perfformiad yn destun boddhad o ystyried y wynebau newydd yn y tîm, gyda Gibbs-White yn ymddangos ochr yn ochr â Korey Smith a Jamal Lowe, ond hefyd y ddau Gymro Ben Cabango a Connor Roberts yn chwarae mor fuan ar ôl y ffenest ryngwladol, a Marc Guehi hefyd wedi bod yn chwarae i dîm dan 21 Lloegr.
Ymateb Steve Cooper
“Mae bob amser yn lle anodd i ddod,” meddai’r rheolwr Steve Cooper ar ddiwedd y gêm.
“Fe welwch chi’r record oedd ganddyn nhw yma y tymor diwethaf, yr un garfan, yr un tîm.
“Roedd hi’n gêm anodd ond ro’n i’n meddwl bod ein perfformiad ni’n dda.
“Yn yr hanner cyntaf, fe gawson ni ein hunain mewn safleoedd da ond wnaethon ni ddim manteisio ar gyfleodd o flaen y gôl.
“Cafodd Jamal [Lowe] dri chwarter cyfle a byddai wedi hoffi taro’r nod ond roedden ni’n fygythiol o’r ystlys ac fe wnaethon ni barhau yn yr ail hanner.
“Doedd Bidwell ddim yn camsefyll, dwi wedi gweld hynny ar y sgrîn, fe ddylai fod wedi ein rhoi ni ar y blaen.
“Byddai wedi bod yn wych i Bidwell ond fel mae e’n gwneud, fe wnaeth e gario ymlaen i wneud y peth iawn.
“Chwaraeodd Andre yn wych, ac fe aeth Gibbs-White i mewn i’r cwrt i’w rhoi hi i mewn, ac roedd hi’n gôl wych gan y tîm.
“Ac roedd angen i ni ddangos yr ochr arall i’n chwarae ni wedyn i gau pen y mwdwl ar y canlyniad.
“Roedd nifer o beli wedi dod i mewn i’n cwrt ni ond doedd Freddie ddim wedi gorfod gwneud arbediad, wir ac mae hynny’n dweud y cyfan wrthoch chi am ein hysbryd ni yn niwedd y gêm.
“Dechrau da iawn.”