Colli oedd hanes Caerdydd wrth ddechrau’r tymor newydd gyda gêm gartref yn erbyn Sheffield Wednesday.

Roedd tynged yr Adar Gleision wedi ei selio yn ystod yr hanner cyntaf, gyda gôl gynnar i’r ymwelwyr gan Josh Windass ac un arall wedyn ar y 44ain munud gan Jordan Rhodes, a gwblhaodd y sgôr derfynol o 2-0.

Fe wnaeth Caerdydd dalu’r pris am amddiffyn gwael o diffyg creadigrwydd er iddyn nhw gael mwy o feddiant. Methiant hefyd oedd unrhyw ymgais i ymosod ar Sheffield Wednesday.

Fe fydd y rheolwr Neil Harris yn sylweddoli bod ganddo waith o’i flaen gan fod yr Adar Gleision yn gallu gwneud yn llawer gwell na hyn.