Mae tîm criced Morgannwg wedi curo Swydd Northampton o saith wiced ar ôl eu bowlio nhw allan am 98 yn eu gêm ugain pelawd yn y Vitality Blast yng Nghaerdydd.
Mae’n cadw eu gobeithion o gyrraedd y rowndiau olaf yn fyw, er y bydd angen iddyn nhw ennill pob gêm sy’n weddill.
Bydd Swydd Northampton yn difaru’r perfformiad ar ôl dewis batio wedi iddyn nhw alw’n gywir, a gorffen gyda’u sgôr gwaethaf erioed mewn gêm ugain pelawd yn erbyn Morgannwg.
Wiced ar ôl wiced
Bedair pelen yn unig gymerodd hi i Forgannwg gipio’r wiced gyntaf, wrth i’r troellwr llaw chwith Prem Sisodiya daro coes Richard Levi o flaen y wiced oddi ar bedwaredd pelen y batiad.
Daeth ail wiced yn yr ail belawd wrth i’r Gwyddel Paul Stirling gael ei stympio gan Chris Cooke oddi ar fowlio’r troellwr arall Andrew Salter, a’r dacteg o arafu’r bowlio wedi taro ar ei chanfed.
Aeth y sefyllfa o ddrwg i waeth i’r ymwelwyr cyn diwedd y cyfnod clatsio, wrth i Josh Cobb gael ei ddal gan Cooke yn cam-fachu Timm van der Gugten, a chafodd Luke Procter ei fowlio gan yr Albanwr Ruaidhri Smith oddi ar ymyl ei fat i adael ei dîm yn 33 am bedair ar ôl chwe phelawd.
Roedden nhw’n 58 am bump erbyn hanner ffordd trwy’r batiad ar ôl i Adam Rossington gael ei ddal gan Cooke oddi ar ymyl y bat i roi ail wiced i’r Iseldirwr van der Gugten.
Cipiodd Sisodiya ddwy wiced arall i orffen gyda thair wiced am 26 – ei ffigurau ugain pelawd gorau erioed – wrth i Alex Wakely gael ei ddal gan y bowliwr oddi ar ei fowlio’i hun, a Graeme White yn cael ei stympio i lawr ochr y goes.
Roedden nhw’n 80 am saith erbyn hynny, a chwympodd tair wiced ola’r batiad o fewn dwy belawd.
Cafodd Gareth Berg ei ddal gan David Lloyd wrth yrru van der Gugten yn sgwâr ar yr ochr agored, cyn i Tom Sole – mab y cyn-chwaraewr rygbi Albanaidd David Sole – gael ei ddal gan Marchant de Lange yn gyrru Smith ar ochr y goes a Nathan Buck yn cael ei ddal yn sgwâr ar yr ochr agored gan Salter oddi ar fowlio de Lange.
Gorffennodd van der Gugten gyda thair wiced am 17.
Y batwyr yn ymlwybro
Er nad oedden nhw’n cwrso sgôr mawr, ymosododd Morgannwg o’r dechrau’n deg, wrth i David Lloyd a Nick Selman gyrraedd 52 heb golli wiced erbyn diwedd y cyfnod clatsio.
Erbyn hynny, roedd Lloyd wedi taro pedwar pedwar ac un chwech, tra bo Selman wedi taro un pedwar ac un chwech wrth adeiladu partneriaeth o 68.
Cafodd Lloyd ei ddal gan Josh Cobb oddi ar ei fowlio’i hun ar ddiwedd y nawfed pelawd ar ôl sgorio 40 oddi ar 29 o belenni, a daeth batiad Selman i ben pan gafodd ei stympio gan Rossington wrth godi’i goes o’r llain oddi ar fowlio White am 28.
Ceisiodd Chris Cooke dynnu pelen gan Gareth Berg ond fe gafodd ei ddal gan Sole i adael Morgannwg yn 85 am dair yn y bedwaredd pelawd ar ddeg, ond cyrhaeddodd Callum Taylor 17 heb fod allan gydag Andrew Balbirnie yn gwmni iddo fe wrth i Forgannwg ennill yr ornest heb fawr o drafferth.