Fe wnaeth y Cymro Ryan Day sgorio 147 – y sgôr uchaf posib mewn ffrâm o snwcer – am yr ail waith yn ei yrfa ddoe (dydd Sul, Medi 13), ar ddiwrnod cyntaf Cynghrair y Bencampwriaeth ym Milton Keynes.
Daeth yr uchafswm yn y ffrâm olaf, wrth iddo fe drechu Rod Lawler o dair ffrâm i un.
Fe gurodd e Paul S Davison o dair ffrâm i ddim yn yr ail ornest, cyn colli o dair ffrâm i un yn erbyn ei gyd-Gymro Matthew Stevens.
Mae’r gystadleuaeth yn cael ei chynnal dros ddau floc o wyth diwrnod yr un, rhwng Medi 13-20 a Medi 28 i Hydref 5.
Mae 32 o grwpiau o bedwar chwarewr yr un yn y bloc cyntaf, gyda dau fwrdd yn cael eu defnyddio bob dydd
Bydd y chwaraewr buddugol o bob un o’r grwpiau’n mynd ymlaen i’r ail gam.