Mae S4C wedi cyhoeddi heddiw (Medi 14) eu bod nhw wedi dod i gytundeb i ddarlledu gemau Cymru yng Nghwpan Cenhedloedd yr Hydref – ar ôl cyhoeddi’r wythnos ddiwethaf na fyddai gemau Cwpan Cenhedloedd yr Hydref ond yn cael eu dangos ar Amazon Prime a Channel 4.

Fe fydd modd gwylio tair gêm grŵp Cymru – yn erbyn Iwerddon, Georgia a Lloegr – yn ogystal â’r rownd derfynol, yn fyw ar S4C.

Mae’r gystadleuaeth wyth tîm yn cynnwys Ffiji a Georgia yn ogystal â’r gwledydd sydd fel arfer yn chwarae ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad.

Mae Lloegr, Iwerddon, Cymru a Georgia yng Ngrŵp A, tra bod yr Alban, Ffrainc, yr Eidal a Ffiji yng Ngrŵp B.

Bydd S4C hefyd yn dangos y gêm gyfeillgar rhwng Ffrainc a Chymru a gêm olaf Cymru ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad yn erbyn yr Alban.

Er bod ysbyty dros dro Calon y Ddraig yn Stadiwm Principality bellach yn cael ei ddadgomisiynu, dydy hi ddim yn glir eto lle bydd gemau cartref Cymru yn cael eu cynnal.

‘Partner ffyddlon i Undeb Rygbi Cymru’

Eglurodd Sue Butler, Comisiynydd Chwaraeon S4C, fod y sianel yn falch iawn o roi’r cyfle i wylwyr ddilyn Cymru yn y gystadleuaeth newydd yn fyw.

“Fel partner ddarlledu ffyddlon i Undeb Rygbi Cymru, mae’r cytundeb yma yn atgyfnerthu ymrwymiad S4C i ddarlledu rygbi ar safon uchel drwy gyfrwng yr iaith Gymraeg, a hynny ar gyfer holl gefnogwyr rygbi Cymru,” meddai.

“Mae S4C yn parhau i fod yn gefnogwr brwd o rygbi Cymru,” meddai Craig Maxwell, Cyfarwyddwr Masnachol Undeb Rygbi Cymru.

“Mae’r cytundeb yma yn galluogi’r cefnogwyr i fwynhau gemau cyffrous Cwpan Cenhedloedd yr Hydref yn yr iaith Gymraeg, sydd yn newyddion gwych.”

Gemau Cymru

Gêm Gyfeillgar Ryngwladol: Ffrainc v Cymru, Hydref 24, 20:00

Chwe Gwlad: Cymru v Yr Alban, Hydref 31, 14.15pm

Gemau Cwpan Cenhedloedd yr Hydref

Rownd un: Iwerddon v Cymru, Tachwedd 13, 19:00

Rownd dau: Cymru v Georgia, Tachwedd 21, 17:15

Rownd tri: Cymru v Lloegr, Tachwedd 28, 16:00

Penwythnos y Rowndiau Terfynol: i’w gadarnhau, Rhagfyr 5, 16:45