Bydd Cymru yn wynebu Iwerddon yn Nulyn ar benwythnos agoriadol Cwpan Cenhedloedd yr Hydref.

Mae’r twrnamaint wyth tîm yn cynnwys â Fiji a Georgia yn ogystal y gwledydd sydd fel arfer yn chwarae ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad.

Mae Georgia wedi cymryd lle Japan yn y gystadleuaeth oherwydd cymhlethdodau logistaidd sy’n deillio o COVID-19.

Bydd y gystadleuaeth yn cael ei chwarae dros bedwar penwythnos, gan ddechrau ar Dachwedd 13.

Mae Lloegr, Iwerddon, Cymru a Georgia yng Ngrŵp A, tra bod  yr Alban, Ffrainc, yr Eidal a Ffiji yng Ngrŵp B.

Mae Cwpan Cenhedloedd yr Hydref yn cychwyn bythefnos ar ôl i rownd olaf Chwe Gwlad 2020 gael ei chwblhau.

“Er ein bod ni wedi wynebu heriau gan bandemig Covid-19 roeddem yn  benderfynol o gyflwyno twrnamaint unigryw a fyddai’n sicrhau rygbi o safon fyd-eang i’n cefnogwyr, a gemau cystadleuol i chwaraewyr, undebau a ffederasiynau,” meddai prif weithredwr y Chwe Gwlad, Ben Morel.

“Rydym yn arbennig o falch iawn o groesawu Fiji a Georgia ac rydym yn disgwyl i’r ddau dîm fod yn  ychwanegiadau gwych i’r gystadleuaeth.”

Gemau Cwpan Cenhedloedd yr Hydref

Rownd un

Iwerddon v Cymru, Tachwedd 13, 19:00

Yr Eidal v Yr Alban, Tachwedd 14, 12:45

Lloegr v Georgia, Tachwedd 14, 15:00

Ffrainc v Fiji, Tachwedd 15, amser i’w gadarnhau

Rownd dau

Yr Eidalv Fiji, Tachwedd 21 , 12:45

Lloegr v Iwerddon, v21, 15:00

Cymru v Georgia, Tachwedd 21, 17:15

Yr Alban v Ffrainc, Tachwedd 22, 15:00

Rownd tri

Yr Albanv Fiji, Tachwedd 28, 13:45

Cymru v Lloegr, Tachwedd 28, 16:00

Ffrainc v Yr Eidal, Tachwedd 28, 20:00

Iwerddon v Georgia, Tachwedd 29, 14:00

Penwythnos y Rowndiau Terfynol

Georgia v i’w gadarnhau, Rhagfyr 5, 12:00

Iwerddon v i’w gadarnhau, Rhagfyr 5, 14:15

Cymru v i’w gadarnhau, Rhagfyr 5, 16:45

Lloegr v i’w gadarnhau, Rhagfyr 5, 14:00