Bydd Sebastian Vettel yn gyrru i Racing Point y tymor nesaf ar ôl arwyddo cytundeb gyda’r tîm.

Bydd Racing Point yn cael ei ailfrandio’n Aston Martin yn 2021.

Ennillodd yr Almaenwr 33 oed bedwar pencampwriaeth yn olynol gyda Red Bull rhwng 2010 a 2013, ond mae ei gyfnod gyda Ferrari wedi bod yn un siomedig.

“Rwy’n hynod falch o cyhoeddi y byddaf yn yrrwr i Aston Martin yn 2021″, meddai.

“Mae gen i gymaint o gariad o hyd at Fformiwla 1 a bydd gwneud hynny gydag Aston Martin yn fraint enfawr. ”

Yn gynharach eleni cafodd Racing Point ei dirwyo £361,000, a cholli 15 pwynt am gopïo rhannau o’r Mercedes roedd Leiws Hamilton yn ei yrru’r llynedd.

Maen nhw’n bedwerydd ar hyn o bryd, dau le o flaen Ferrari.