Mae Geraint Thomas wedi disgyn i’r chweched safle yn y Tirreno-Adriatico, ar ôl diwedd ymosodol i gam mynyddig cyntaf y ras i Cascia.

Aeth Simon Yates iddi’n galed wrth ddringo allt Ospedaletto, 12 milltir o ddiwedd y cymal 194 cilomedr o hyd.

Llwyddodd Lucas Hamilton, hefyd o dîm Mitchelton-Scott, i ennill y cymal, gan guro Fausta Masnada.

Dilynodd Geraint Thomas, o dîm Ineos Grenadiers, Yates i’r llinell derfyn gan ddod yn bumed yn y cymal.

Roedd Geraint Thomas yn rhan o’r ail grŵp, oedd hefyd yn cynnwys Yates, a James Knox o dîm Deceuninck-QuickStep.

Gwellodd safleoedd cyffredinol Hamilton a Masnada, gan olygu fod Geraint Thomas a Yates yn disgyn i’r chweched a’r seithfed safle, 34 eiliad ar ôl Michael Woods, o Ganada, sydd ar y blaen.

Mae Knox yn eistedd yn y 10fed safle, 47 eiliad ar ôl Michael Woods.

“Popeth yn dda,” yn ôl Geraint Thomas.

Dywedodd Geraint Thomas ei fod wedi bod yn chwarae gyda’i dactegau wrth iddo edrych ymlaen at ras Giro d’Italia fis nesaf.

“Mae’r ras hon yn dangos i fi sut stâd sydd ar fy nghoesau, a dw i’n reidio fymryn yn wahanol,” meddai Geraint Thomas.

“Rwyf yn reidio’r ras hon fel pe bawn i’n barod i’w cholli.

“Roedd yn ras i gyrraedd y trydydd safle, ro’n i’n gwybod fod y ffordd yn culhau ac roeddwn i’n gobeithio y byddwn yn gallu defnyddio hynny i gadw’r gystadleuaeth draw.

“Mi es i i ffwrdd ychydig yn rhy gynnar, ond mae popeth yn dda.”