Mae golwr  Caerdydd, Neil Etheridge, wedi ymuno â Birmingham City.

Er nad yw’r ffi wedi ei ddatgelu, mae adroddiadau y gallai Caerdydd dderbyn £2m am y golwr.

Treuliodd dri tymor gyda’r Adar Gleision, ond yn gynharach eleni collodd ei le yn y tîm i Alex Smithies.