Mae adroddiad ym mhapur newydd The Evening Standard bod Ben Woodburn yn gadael tîm pêl-droed Lerpwl, ar fenthyciad tymor hir, ac yn ymuno gyda chlwb Sparta Rotterdam yn yr Iseldiroedd.

Y stori yw bod y Cymro 20 oed yn mynd i Rotterdam dan argymhelliad hyfforddwr cynorthwyol Lerpwl, Pepijn Lijnders, sydd yn dod o’r Iseldiroedd.

Ers 2018 bu’r asgellwr ar fenthyg gyda thimau Sheffield United a Rhydychen, ond mae anafiadau wedi ei rwystro rhag chwarae rhyw lawer.

Cafodd ei eni yn Nottingham, a’i fagu yn Swydd Gaer, ond mae ei deulu yn hanu o Gymru – gan roi’r hawl iddo chwarae ei bêl-droed rhyngwladol i Gymru neu Loegr.

Dewisodd ymuno â thîm rhyngwladol Cymru, gan gael ei alw i’r tîm gan Chris Coleman, y cyn-reolwr, ym Medi 2017 er mwyn chwarae yng ngemau rhagbrofol Cwpan y Byd.

Yn ei gêm gyntaf i Gymru sgoriodd gôl, ac yntau ond yn 17 oed ar y pryd.

Golygai hyn mai ef yw’r ail ieuengaf i sgorio gôl i dîm rhyngwladol Cymru, gyda’r record yn cael ei dal gan Gareth Bale.