Mae Michael Holding wedi beirniadu penderfyniad tîm criced Lloegr i roi’r gorau i blygu glin er mwyn cefnogi symudiad Black Lives Matter, ac am wneud esgusodion “tila” dros y penderfyniad.

Galwodd cyn-fowliwr India’r Gorllewin am ddiwedd i hiliaeth systemig ym mis Gorffennaf, ar ôl disgrifio’r problemau a ddaeth ar eu traws yn Awstralia a Lloegr yn ystod ei yrfa.

Siaradodd Michael Holding am yr angen i greu newid ystyrlon i gymdeithas yn dilyn llofruddiaeth George Floyd ym Minnesota ym mis Mai.

Yn ystod y tri phrawf ym mis Gorffennaf plygodd chwaraewyr, swyddogion a staff timau criced Lloegr ac India’r Gorllewin eu glin er mwyn cefnogi ymgyrch Black Lives Matter.

Plygodd tîm Lloegr eu glin yn ystod eu cyfres undydd o brofion yn erbyn Iwerddon, ond nid yn y cyfresi yn erbyn Awstralia na Phacistan.

Dynoliaeth yn dod at ei gilydd i fynnu cydraddoldeb

“Rwyf ychydig yn siomedig nad wyf wedi gweld yr un tîm yn plygu glin ers cyfres Lloegr-Iwerddon,” meddai Michael Holding ar ei sianel YouTube.

“Er nad yw timau India’r Gorllewin yn chwarae ar hyn o bryd, nid yw’n golygu na ddylai’r timau barhau i barchu’r neges a’r hyn mae’n ei gynrychioli.

“Mae’r arfer o blygu glin yn deillio’n ôl at Colin Kaepernick yn America, a blygodd lin er mwyn tynnu sylw at hiliaeth a chreulondeb yr heddlu yn erbyn pobol dduon.

“Mae’n fwy difrifol yn yr Unol Daleithiau, ond mae pobol o amgylch y byd wedi bod yn lledaenu’r gair ac yn rhannu’r neges ei bod yn amser cael cyfiawnder a chydraddoldeb.

“Nid oedd yn fater o bobol dduon yn erbyn pobol wynion; roedd yn golygu fod dynoliaeth yn dod at ei gilydd ac yn dweud ‘gwrandwch, mae’n rhaid i bawb gael eu trin yn gyfartal.’”

Beiodd Fwrdd Criced Lloegr a Chymru, a chapten tîm Awstralia, Aaron Finch, am wneud sylwadau “tila” ynghylch rhoi’r gorau i’r arfer pan oedd nifer o dimau chwaraeon eraill yn dal i ddangos ymroddiad.

Dywedodd Aaron Finch na fyddai ei dîm yn plygu glin, gan ddweud “fod yr addysg o’i amgylch yn bwysicach na’r brotest.”

“Deall pwysigrwydd symbolaeth”

Mewn ymateb i sylwadau Michael Holding, dywedodd Bwrdd Criced Lloegr fod nifer o’u timau wedi plygu glin er mwyn cefnogi Black Lives Matter.

“Ein hymateb ni i Black Lives Matter yw sicrhau newid cynaliadwy a thymor hir i’r holl gymunedau sydd yn cael eu trin yn anghyfartal.

“Rydym yn parhau i fod yn ymroddedig i’r athroniaeth hon.

“Mae ein cynllun ar gyfer sicrhau amrywiaeth a chynhwysiad, a gafodd ei gyhoeddi ar ddechrau’r gyfres yn erbyn India’r Gorllewin, yn ymroi i ganolbwyntio ar gael gwared ar anffafriaeth ym mhob rhan o’r gêm.

“Mae holl chwaraewyr Lloegr, dynion a merched, yn parhau’n ymroddedig i ddefnyddio eu dylanwad i hyrwyddo cynhwysiad ac amrywiaeth ar gyfer gwella criced a chwaraeon.

“Rydym yn deall pwysigrwydd symbolaeth, a’i bŵer i amlygu materion, ein nod ni yw sicrhau ein bod yn cyflawni newid.”