Mae cyn-bencampwr bocsio wedi ymuno â’r Blaid Genedlaethol (WNP, Welsh National Party).

Mae Steve Robinson – y ‘Cinderella man’ – yn hanu o Gaerdydd, ac yn 1993 fe ddaeth yn bencampwr bocsio’r byd yn y categori pwysau plu.

Wrth gyhoeddi ei fod yn dod yn aelod o blaid newydd Neil McEvoy, mae’r cyn-bencampwr wedi dweud bod “gwleidyddiaeth yn rhy bwysig i’w adael i’r gwleidyddion” ac mae wedi rhannu ei bryderon am ddiffyg canolfannau ieuenctid.

“Rwy’n falch o fy ngwreiddiau,” meddai. “Cymro ydw i a chefais fy magu ar yr ystâd yn Nhrelái. Mae’n peri pryder i mi y dyddiau hyn bod cymaint o ganolfannau a chyfleusterau ieuenctid wedi cau.

“Mae angen mwy o gyfleusterau ar bobl ifanc i ddatblygu yn y ffordd iawn. Mae angen i ni godi ar ein traed ac ymladd dros ein cymunedau. Mae angen inni adael i’n lleisiau gael eu clywed.

Sinderela Trelái

Roedd Steve Robinson ar gyflog o £52 yr wythnos yn gweithio yn siop ddillad Debenhams, pan enillodd y teitl pwysau plu yn y 1990au. Mi gytunodd i ymladd yr ornest gyda dim ond 48 awr o rybudd.

Aeth ymlaen i amddiffyn ei deitl ar saith achlysur dros gyfnod o ddwy flynedd a hanner. Ef yw’r pencampwr bocsio byd du cyntaf o Gymru

Mae’r gŵr 51 oed bellach yn hyfforddwr bocsio.

Cafodd y WNP ei sefydlu fis Ionawr eleni gan Neil McEvoy, cyn-aelod Plaid Cymru a gafodd ei wahardd o’r blaid honno.