Mae tri phlentyn wedi cael eu hanafu’n ddifrifol wedi i dop eu bws ysgol daro yn erbyn pont.

Cafodd to’r bws deulawr (double decker) ei rwygo oddi ar gorff y cerbyd ar Wellhouse Lane, yng Nghaer-wynt (Winchester), Lloegr, am 8.10 y bore.

Anafwyd tri yn ddifrifol a bu’n rhaid eu cludo i’r ysbyty, a chafodd dwsin arall eu hanafu a’u trin yn y fan a’r lle. Roedd dros hanner cant o blant yn y cerbyd, i gyd rhwng 11 ac 16 oed.

Yn ôl tystion i’r digwyddiad, fe wnaeth y plant – o ysgol uwchradd Henry Beaufort – sgrechian wrth i’r to gael ei rwygo i ffwrdd.

“Roedd y plant yn llawn pryder, ac roedden nhw’n amlwg newydd brofi sefyllfa a allai achosi trawma,” meddai Andy Tester, Arolygwr o Heddlu Hampshire.

“Cafodd sawl un eu hanafu, ac roedd yn anodd iawn delio â’r sefyllfa o’n blaenau.”

Mae cwmni bysys Stagecoach South wedi dweud eu bod yn ymchwilio i’r mater.