Mae ymchwil i gefnogi datblygiad ynni adnewyddadwy’r môr yng Nghymru wedi derbyn hwb ariannol o £1.5m.

Bydd cyllid ychwanegol gan Lywodraeth Cymru yn galluogi i ymchwil gan Brifysgol Bangor a Phrifysgol Abertawe barhau tan 2022.

‘Arweinydd byd eang’

Yn ôl yr Athro Lewis Le Vay ym Mhrifysgol Bangor gallai Cymru fod yn “arweinydd byd eang” yn natblygiad cynhyrchu ynni adnewyddadwy’r môr.

“Mae’r cyllid newydd hwn yn gyfle cyffrous i gynyddu buddion SEACAMS2, sydd ers 2015 wedi bod yn helpu i ddatgloi potensial ynni adnewyddadwy’r môr trwy bartneriaethau ymchwil ar y cyd gyda diwydiant adnewyddadwy Cymru.”

Ategwyd yr un neges gan Jeremy Miles, y Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Pontio Ewropeaidd: “Mae’r cynllun yn rhoi cyfle gwirioneddol i Gymru fod ar flaen y gad mewn diwydiant mawr sy’n dod i’r amlwg”.

Bydd yr arian yn galluogi i Brifysgol Abertawe a Bangor gyflawni projectau gan gynnwys cefnogi datblygu cynnyrch, modelu ynni’r llanw a chasglu’r dystiolaeth amgylcheddol a data gwyddonol.

Cydweithio

“Mae’r cydweithio y mae hyn yn ei hwyluso rhwng diwydiant a’r byd academaidd yn allweddol i bontio’r bwlch rhwng arloesi ac ymchwil ac yn cynorthwyo cwmnïau adnewyddadwy’r môr i ateb rhai o’r materion anhysbys yn y sector”, meddai Jess Hooper, Rheolwr Rhaglen Ynni’r Môr yn Ynni Môr Cymru.

“Rydym yn edrych ymlaen at gyfraniad parhaus Ynni Môr Cymru yn hwyluso’r cydlynu rhwng ymchwil academaidd ac anghenion y diwydiant, gan alluogi’r sector i dyfu’n gyflym a chynyddu cyfraniad yr economi glas i’r adferiad gwyrdd.”