Y Gweilch yw’r rhanbarth diweddaraf i gyhoeddi bod eu chwaraewyr a’u staff wedi cytuno i doriad cyflog o 25% dros y 12 mis nesaf yn sgil y coronafeirws.
Mae’r Scarlets a’r Dreigiau eisoes wedi cyhoeddi toriad cyflog.
Nid yw Gleision Caerdydd wedi cadarnhau unrhyw newid eto.
“Hoffai’r Gweilch ddiolch i’r chwaraewyr am eu cydweithrediad a’u dealltwriaeth yn ystod y broses wrth i ni edrych ymlaen at y tymor 2020-21 sydd i ddod”, meddai’r rhanbarth mewn datganiad.
“Hoffem hefyd ddiolch i staff y Gweilch am eu dealltwriaeth o ran pam bod camau o’r fath yn angenrheidiol ac am eu hymrwymiad yn ystod cyfnod o heriau digynsail i bob un ohonom.”
Ym mis Ebrill, daeth y Bwrdd Rygbi Proffesiynol (PRB) i gytundeb â Chymdeithas Chwaraewyr Rygbi Cymru (WRPA) dros doriad cyflog o 25% dros dri mis.
Ers hynny, mae’r rhanbarthau wedi bod yn trafod gyda’u chwaraewyr ynghylch gostyngiadau pellach.