Mae Micheal Martin, Taoiseach Iwerddon, wedi cysylltu â Boris Johnson i fynegi ei “wrthwynebiad” i’w fwriad i wneud newidiadau i gytundeb Brexit.
Dywedodd Micheal Martin fod y penderfyniad gan Lywodraeth Prydain i newid elfennau allweddol o’r cytundeb yn debygol o gael effaith ar drafodaethau rhwng Iwerddon a Phrydain yn y dyfodol ac “wedi creu tensyniau”.
Dywedodd Mr Martin fod Bil y Farchnad Fewnol a gyhoeddwyd ddydd Mercher “yn mynd yn groes” i gyfraith ryngwladol.
Mae cyfarfod rhwng y Deyrnas Unedig a’r Undeb Ewropeaidd yn cael ei gynnal yn Llundain heddiw (Medi 10) i drafod y newidiadau i’r cytundeb, ac yn benodol am yr effaith byddai’n cael ar Ogledd Iwerddon.
‘Cythryblus iawn i Ogledd Iwerddon’
“Yn amlwg mae’r Cyd-bwyllgor yn cyfarfod heddiw a bydd yr Undeb Ewropeaidd yn trafod hyn yn llawn,” meddai Micheal Martin wrth RTE Morning Ireland.
“Fe’i gwnes yn glir iawn iddo [Boris Johnson] ein gwrthwynebiad llwyr i’r penderfyniad a gymerodd ei lywodraeth ddoe, a natur unochrog penderfyniad Llywodraeth Prydain i dorri cytundeb rhyngwladol.
“Tynnais ei sylw i’r ffaith fod hyn yn gythryblus iawn i Ogledd Iwerddon.
“Gan atgoffa fod gan bob un ohonom rwymedigaethau fel arweinwyr gwleidyddol i amddiffyn ein pobl rhag effaith waethaf cytundebau a bod yr ymyrraeth yma yn ddifrifol iawn, iawn a bod hy wedi codi cwestiynau am yr o ymddiriedaeth rhwng yr Undeb Ewropeaidd a’r Deyrnas Unedig a ninnau.”
Yn y cyfamser mae’r Prif Weinidog, Mark Drakeford wedi disgrifio cyhoeddi Bil y Farchnad Fewnol fel “ddiwrnod gwael iawn” i’r Deyrnas Unedig ac mae Llywodraeth yr Alban wedi dweud bod y ddeddfwriaeth newydd yn “ymosodiad amlwg ar ddatganoli”.