Mae Llywodraeth San Steffan wedi cadarnhau ei bod yn bwriadu creu deddfwriaeth a fyddai’n caniatáu iddynt ddiystyru rhannau o’r Cytundeb Gadael, sef y cytundeb y daethpwyd iddo er mwyn parhau â’r broses o adael yr Undeb Ewropeaidd.

Yn ôl Llywodraeth y Deyrnas Unedig, mae’n gam angenrheidiol rhag ofn y bydd trafodaethau masnach yn methu.

Mynnodd Ysgrifennydd yr Amgylchedd, George Eustice, nad y bwriad yw chwalu’r cytundeb â’r Undeb Ewropeaidd. Dywedodd wrth y BBC: “Yr hyn rydym yn sôn amdano yma yw pa fath o brosesau tollau gweinyddol a allai fod gennych ar gyfer nwyddau a allai fod mewn perygl o ymuno â marchnad sengl yr UE – mynd o Brydain Fawr i Ogledd Iwerddon. Mae’r rhain yn fanylion technegol pwysig ond mân.”

Er bod y Deyrnas Unedig wedi gadael yr Undeb Ewropeaidd bydd yn cadw at reolau masnach Ewropeaidd tan ddiwedd y flwyddyn.

Y bwriad oedd creu cytundeb masnach newydd erbyn hynny, ond mae’r broses wedi bod yn araf iawn.

Gogledd Iwerddon

Er mwyn atal ‘ffin galed’ rhwng Iwerddon a Gogledd Iwerddon roedd disgwyl i Ogledd Iwerddon gadw at rai o reolau’r Undeb Ewropeaidd, a hynny ar ôl i’r cyfnod pontio ddod i ben ddiwedd mis Rhagfyr.

Byddai’r datblygiad diweddaraf yn cael gwared ar y gofyniad am drefniadau tollau newydd yng Ngogledd Iwerddon.

Adroddwyd y byddai Bil y Farchnad Fewnol yn rhoi terfyn ar gyfreithlondeb y Cytundeb Gadael mewn meysydd fel tollau Gogledd Iwerddon a chymorth gwladwriaethol a chymorth ariannol.

Ymateb

Mae’r blaid Lafur wedi ymateb yn chwyrn i’r sefyllfa gan gyhuddo’r Prif Weinidog o gamarwain pobl. Dywedodd Ysgrifennydd Iechyd yr Wrthblaid, Jonathan Ashworth, wrth y BBC:

“Dywedodd Boris Johnson, ro’n i’n meddwl, wrthym fod ganddo fargen oedd yn ‘barod i’r ffwrn’. Ac ymladdodd etholiad cyffredinol yn dweud wrthym fod ganddo fargen ‘barod i’n ffwrn’; bellach mae’n awgrymu ei fod wedi camarwain pobl yn yr etholiad cyffredinol hwnnw.”

Mae Gweinidog Tramor Iwerddon, Simon Coveney, wedi dweud bod y ffordd y mae’r DU yn gweithredu’n “annoeth”, ac mae Michel Barnier, prif drafodwr yr Undeb Ewropeaidd, wedi gofyn am eglurhad o gynlluniau’r DU.

Mae Helen Mary Jones, Plaid Cymru, wedi annog Llywodraeth Cymru i beidio â chydweithredu â San Steffan.

Mae Carwyn Jones, cyn-Brif Weinidog Cymru, wedi awgrymu y gallai’r ddeddfwriaeth achosi i’r Deyrnas Unedig “gwympo’n ddarnau”.