Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi dweud eu bod yn “bryderus” am y “twf sylweddol” mewn achosion o’r coronaferiws yng Nghaerffili.

Daw hyn ar ôl i drigolion Caerffili gael eu rhybuddio y gallai cyfyngiadau’r coronafeirws gael eu hailgyflwyno pe bai nifer yr achosion yn codi yno.

Ac mae 21 o ddisgyblion mewn ysgol gynradd yn sir Caerffili yn dechrau ar gyfnod 14 diwrnod o ynysu ar ôl i aelod o staff yn yr ysgol brofi’n bositif ar gyfer y coronafeirws.

“Mae hi’n allweddol bod pawb yn y gymuned yn cadw at reolau pellhau cymdeithasol – hynny yw, drwy hunan ynysu pan fo’ angen, cadw dau fetr i ffwrdd rhag unrhyw un tu allan i’ch tŷ, a golchi dwylo’n gyson,” meddai Dr Giri Shankar o Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Mae Dr Giri Shankar wedi apelio ar bawb yng Nghaerffili i ddefnyddio’r uned brofi leol yn y ganolfan hamdden yn y dref os ydyn nhw’n dangos “hyd yn oed yr ysgafnaf” o symptomau coronaferiws.

Ond mae wedi annog rhieni i beidio tynnu eu plant o’r ysgol oni bai bod yr ysgol neu’r awdurdod lleol yn gofyn iddynt wneud hynny.

Ychwanegodd Dr Giri Shankar: “Rydym nawr yn gweld cynnydd mewn achosion mewn nifer o gymunedau ar draws Cymru ac mae ein hymchwiliadau yn dangos bod nifer o’r rhai wedi cael eu trosglwyddo oherwydd diffyg pellhau cymdeithasol.”

Ffigurau diweddaraf

Mae 133 achos newydd o’r coronaferiws wedi cael ei gadarnhau yng Nghymru, gan ddod a chyfanswm yr achosion i 18,514.

Ni fu unrhyw farwolaethau pellach o bobl sydd wedi profi’n bositif am y coronafeirws yng Nghymru, gyda chyfanswm y marwolaethau ers dechrau’r pandemig yn aros ar 1,597.