Mae trigolion Caerffili yn cael eu rhybuddio y gallai cyfyngiadau’r coronafeirws gael eu hailgyflwyno pe bai nifer yr achosion yn codi yno – wrth i’r Cyngor Sir gau cartrefi gofal i’r cyhoedd eto.
Daw’r rhybudd wrth i ganolfan brofi newydd gael ei hagor yn y dref heddiw (dydd Sadwrn, Medi 5).
Dywed y Cyngor Sir fod yr ardal wedi gweld “nifer bryderus” o achosion newydd dros yr wythnos ddiwethaf, gan gynghori pobol i wneud popeth o fewn eu gallu i atal yr ymlediad ymhellach.
Daeth Iechyd Cyhoeddus Cymru, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan a Chyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili ynghyd brynhawn ddoe (dydd Gwener, Medi 4) i drafod y sefyllfa.
Maen nhw wedi penderfynu na fydd modd i bobol fynd i weld preswyliaid cartrefi gofal y sir am y tro.
‘Pryderus iawn’
“Mae’r cynnydd yn nifer yr achosion yng Nghaerffili yn bryderus iawn, ac alla i ddim pwysleisio digon bwysigrwydd hanfodol cadw pellter cymdeithasol a dilyn y mesurau y dylen ni i gyd fod yn eu dilyn er mwyn cyfyngu ar ledaeniad y feirws marwol hwn,” meddai Philippa Marsden, arweinydd Cyngor Caerffili.
“Dydy’r coronafeirws ddim wedi mynd i ffwrdd, ond mae’n amlwg fod ymddygiad rhai pobol yn peryglu iechyd a lles ein cymuned.
“Tra bod y feirws yn gallu bod yn un ysgafn ymhlith rhai pobol, rydym oll yn gwybod y gall fod yn farwol i’r henoed a’r bobol fregus yn ein cymdeithas.
“Bydd ymddygiad pobol leol dros y dyddiau i ddod yn hanfodol wrth helpu i reoli ymlediad y coronafeirws ac mae angen i ni i gyd chwarae ein rhan.”
Cyngor
Mae pobol leol yn cael eu hannog i ddilyn yr holl ganllawiau sydd mewn grym eisoes, ac i leihau eu cyswllt â phobol y tu allan i’r aelwydydd sydd wedi’u cytuno eisoes.
Mae gofyn hefyd i bobol beidio â theithio’n bell o’r sir dros y dyddiau i ddod, ac i bobol sydd â symptomau i geisio prawf cyn gynted â phosib a dilyn y cyngor ar ynysu.
Mae’r ganolfan brofi dros dro wedi’i hagor yng Nghanolfan Hamdden Caerffili heddiw a bydd modd i bobol gerdded i mewn heb apwyntiad i gael prawf.