Fe fydd nifer o wahanol fathau o fusnesau’n cael agor eto yng Nghaerlŷr a gogledd Lloegr yn cael agor eto o ddydd Mawrth (Medi 8).

Fe fu nifer o drefi a dinasoedd ym Manceinion Fwyaf a Gorllewin Swydd Efrog dan gyfyngiadau llym yn sgil y coronafeirws.

Bydd modd i ganolfannau bowlio deg, casinos, canolfannau sglefrio iâ, neuaddau arddangosfeydd, canolfannau cynadledda a chanolfannau chwarae dan do agor eto wrth i’r cyfyngiadau gael eu llacio.

Ond mae cyfyngiadau llym o hyd yn Bolton.

Bydd modd hefyd i berfformiadau dan do ddechrau eto gyda chynulleidfaoedd yn cadw pellter oddi wrth ei gilydd, a bydd modd cael triniaethau wyneb hefyd.

Bydd modd i byllau nofio, campfeydd a chyfleusterau chwaraeon agor eto yng Nghaerlŷr, Blackburn a Bradford.

Ond bydd rhai cyfyngiadau eraill yn cael eu hadolygu yng Nghaerlŷr ddydd Gwener nesaf (Medi 11).

Yn y cyfamser, mae Leeds, de Tyneside, Corby, Middlesbrough a Kettering yn “llefydd i’w gwylio” erbyn hyn yn sgil pryderon Llywodraeth Prydain fod achosion ar gynnydd.

Bydd ardaloedd Norfolk, Rossendal a Northampton yn cael “cymorth ychwanegol”, gan gynnwys mwy o brofion ac olrhain cysylltiadau.

Ond mae Newark a Sherwood yn Swydd Nottingham, Slough a Wakefield wedi’u tynnu oddi ar restr y llywodraeth wrth i bryderon gael eu lleddfu yno.