Mae protestwyr Gwrthryfel Difodiant wedi targedu cwmni News Corp drwy gynnal protest y tu allan i argraffwyr y Scottish Sun.

Fe wnaethon nhw geisio atal y papur rhag cael ei ddosbarthu drwy brotestio y tu allan i’r gatiau, gan alw am “ryddhau’r wasg” a dweud “na i rethreg hiliol”.

Roedd rhai yn dal papurau ffug yn beirniadu rhagfarn y wasg.

Dywed y protestwyr eu bod nhw hefyd yn targedu ffynhonnell o gyfalafiaeth tanwydd ffosil, gan ddweud bod y wasg yn “llwgr ac ar gyfer 1%” a’u cyhuddo o “fwydo celwyddau i ni am newid hinsawdd, mewnfudwyr ac economeg”.

“Am un noson, ni sy’n gosod yr agenda, nid nhw,” meddai un o’r protestwyr.

Mae Gwrthryfel Difodiant hefyd wedi targedu safleoedd News Corp yn Swydd Hertford a Lerpwl dros y dyddiau diwethaf, gydag o leiaf 13 o bobol wedi’u harestio yn Swydd Hertford lle gwnaethon nhw atal lorïau rhag gadael y safle.

Mae’r argraffwyr yn argraffu sawl un o gyhoeddiadau News Corp, gan gynnwys The Sun, The Times, The Sun on Sunday a The Sunday Times, ynghyd â’r Daily Telegraph a’r Sunday Telegraph, y Daily Mail a’r Mail on Sunday, a’r London Evening Standard.

Mae’r cwmni wedi beirniadu’r weithred, gan ddweud iddyn nhw drosglwyddo’r gwaith argraffu i safle arall, ond fod disgwyl oedi wrth ddosbarthu’r papurau.

Maen nhw’n dweud bod y mater bellach yn nwylo’r heddlu a’r Swyddfa Gartref, ac wedi ymddiheuro wrth ddarllenwyr yr holl gyhoeddiadau am yr oedi.