Mae pedwar aelod o staff mewn pedair ysgol yn y de wedi profi’n bositif ar gyfer y coronafeirws.
Mae’r achosion yn ymwneud â dwy ysgol ym Mhen-y-bont ar Ogwr, un yn sir Torfaen a’r llall yn Sir Gaerfyrddin.
Yr ysgolion dan sylw yw Ysgol Bryn Castell ym Mrynmenyn ac Ysgol Maesteg ym Mhen-y-bont ar Ogwr, Ysgol Gynradd Woodlands yng Nghwmbrân ac Ysgol y Dderwyn yng Nghaerfyrddin.
Dydy’r achosion ym Mhen-y-bont ar Ogwr a Thorfaen ddim yn ymwneud â phlant, meddai’r cynghorau hynny.
Fydd disgyblion Cyfnod Allweddol 4 ddim yn dychwelyd i Ysgol Bryn Castell tan Fedi 21, a byddan nhw’n cael eu dysgu o bell.
Mae 17 aelod o staff yn Ysgol Bryn Castell a phum aelod o staff yn Ysgol Maesteg wedi cael eu cynghori i ynysu am bythefnos.
Ymateb
Mae’r ysgolion a’r cynghorau sir wedi bod yn ymateb i’r sefyllfa.
Dywed Ysgol Maesteg fod aelod o staff wedi profi’n bositif yn ystod y 24 awr diwethaf, a bod diogelwch y disgyblion a’r staff yn “brif flaenoriaeth o hyd”.
Dywedodd Ysgol Bryn Castell mewn llythyr ddydd Iau (Medi 3) fod Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cynghori’r ysgol ei bod yn ddiogel i’r disgyblion ddychwelyd i’r safle, ac maen nhw’n gwahodd rhieni i gysylltu â nhw os oes ganddyn nhw bryderon.
Dywedodd Cyngor Sir Pen-y-bont fod gwersi wedi’u gohirio i blant yng Nghyfnod Allweddol 4.
Mae Cyngor Torfaen wedi cadarnhau bod aelodau o staff yn ynysu ond y byddai’r ysgol yno’n parhau ar agor ac nad oes angen i neb ynysu oni bai bod ganddyn nhw symptomau’r feirws.
Dywed Cyngor Sir Gâr eu bod nhw’n dilyn gweithdrefnau profi, olrhain a gwarchod.