Mae Llywodraeth Cymru am ariannu 37 o lefydd ychwanegol i fyfyrwyr yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Caerdydd.

Bydd 25 o lefydd ar gael eleni, tra bydd 12 ar gael y flwyddyn nesaf.

Daw’r cyhoeddiad wrth i’r Ysgol Feddygaeth weld cynnydd yn nifer y ceisiadau i astudio ar gyrsiau meddygaeth a gofal iechyd eleni.

Bydd yr arian yn mynd tuag at gostau’r myfyrwyr, staffio a gorbenion.

‘Cynhyrchu graddedigion o’r radd flaenaf bob blwyddyn’

“Mae Prifysgol Caerdydd yn rhan o’n rhwydwaith gadarn o ddarparwyr addysg feddygol a gofal iechyd yma yng Nghymru, sy’n cynhyrchu graddedigion o’r radd flaenaf bob blwyddyn,” meddai Kirsty Williams, Ysgrifennydd Addysg Cymru.

“Rwy’n falch iawn o fedru helpu Prifysgol Caerdydd i ddarparu’r lleoedd ychwanegol hyn a fydd yn gwneud cyfraniad mor werthfawr i iechyd a lles ein cenedl dros y blynyddoedd nesaf.”

Ac yn ôl Vaughan Gething, Ysgrifennydd Iechyd Cymru, mae’r coronafeirws “wedi rhoi straen ychwanegol ar ein Gwasanaeth Iechyd Gwladol a’r sector gofal iechyd eleni”.

“Felly helpu mwy fyth o fyfyrwyr i gofrestru ar gyrsiau meddygaeth a gofal iechyd yma yng Nghymru eleni yw’r ffordd orau o’n helpu i ddiwallu ein hanghenion iechyd a gofal nawr ac yn y dyfodol,” meddai.

‘Newyddion ardderchog’

Mae Ysgol Feddygaeth Prifysgol Caerdydd wedi croesawu’r cyhoeddiad.

“Mae’n newyddion ardderchog bod Llywodraeth Cymru yn dangos eu cefnogaeth i fyfyrwyr meddygol sydd wedi cael eu heffeithio gan sefyllfa canlyniadau Safon Uwch eleni,” meddai’r Athro Stephen Riley, pennaeth yr Ysgol Feddygaeth.

“Nawr gall Prifysgol Caerdydd ddarparu lleoedd i bawb sydd wedi cyrraedd amodau eu cynigion pendant dros y ddwy flynedd nesaf.

“Byddwn yn gweithio’n galed gyda’n partneriaid yn y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru i roi hyfforddiant clinigol ardderchog iddyn nhw.

“Gobeithio y byddan nhw’n dewis aros yng Nghymru i fod yn feddygon i ni yn y dyfodol.”