Mae Portland yn nhalaith Oregon wedi cael canfed noson yn olynol o brotestio – cyfnod sydd wedi gweld fandaliaeth, anhrefn a llofruddio cefnogwyr yr Arlywydd Donald Trump – wrth i bobol ddangos wrthwynebu anghyfiawnder hiliol.
Dechreuodd y protestiadau ym mis Mai ar ôl llofruddiaeth George Floyd ym Minneapolis.
Maen nhw wedi trawsnewid dinas fwyaf Oregon yn ganolbwynt thema “cyfraith a threfn” ymgyrch arlywyddol Donald Trump.
Mae llofruddiaeth cefnogwr asgell dde Donald Trump oedd wedi dod i ganol y ddinas gyda cherbydau’n cefnogi’r arlywydd wedi arwain at ragor o anrhefn.
Cafodd y dyn oedd wedi ei amau o fod yn gyfrifol, Michael Forest Reinoehl, ei ladd gan yr heddlu nos Iau (Medi 3).
Mae’r Llywodraethwr Democrataidd Kate Brown wedi galw ar ddirprwyon i helpu heddlu Portland yn dilyn trais yr wythnos ddiwethaf.
Ac mae Donald Trump wedi bygwth anfon asiantiaid yn ôl i’r ddinas, fel y gwnaeth ym mis Gorffennaf, er mwyn rhoi stop ar ymosodiadau ar y llys ffederal ac adeiladau eraill.
Roedd achosion o saethu ym mis Gorffennaf ar y raddfa uchaf ers 30 mlynedd ac roedd bron i ddau draean o’r dioddefwyr yn groenddu.
Mae Chuck Lovell, pennaeth yr heddlu a dyn croenddu, wedi dweud bod marwolaeth bachgen croenddu 16 oed a gafodd ei saethu wedi cael ei anwybyddu gan y cyfryngau cenedlaethol sydd wedi rhoi’r sylw i lofruddiaeth cefnogwr Donald Trump.
“Mae angen heddwch yn Portland,” meddai.