Mae’r Blaid Lafur wedi ennill 49 allan o 63 o seddi yn etholiad Jamaica, gan drechu Plaid Genedlaethol y Bobol.

Wrth annerch y genedl, fe wnaeth y Prif Weinidog newydd Andrew Holness longyfarch pobol Jamaica ar etholiad esmwyth a theg, a gafodd ei gynnal yn sgil pandemig y coronafeirws.

“Mae hon yn fuddugoliaeth i bobol Jamaica,” meddai.

Roedd y Blaid Lafur wedi canolbwyntio ar addewidion i adfer yr economi ar ôl pandemig y coronafeirws, sydd wedi cael effaith ar dwristiaeth ac allforion.

Ar y llaw arall, roedd Plaid Genedlaethol y Bobol wedi gaddo darparu rhaglenni cymdeithasol i helpu pobol fregus, gan gynnwys myfyrwyr, pobol dlawd a’r dosbarth gweithiol.

Mae’r Blaid Lafur a Phlaid Genedlaethol y Bobol wedi bod yn gystadleuwyr gwleidyddol ers i Jamaica ennill annibyniaeth yn 1962.

Yn yr etholiad diwethaf, roedd y Blaid Lafur wedi ennill o 33 i 30.

Gyda thros 800 o achosion newydd o’r coronafeirws yn yr wythnos ddiwethaf, roedd arbenigwyr iechyd yn gofidio y byddai’r etholiad yn gwaethygu’r argyfwng iechyd.

Mae’r wlad, sydd â thair miliwn o boblogaeth, wedi cofnodi mwy na 2,400 o achosion a 21 o farwolaethau ers dechrau’r pandemig.

Roedd yn rhaid i bleidleiswyr wisgo mygydau a chadw pellter cymdeithasol wrth bleidleisio.

Cafodd pobol oedd wedi profi’n bositif am y feirws amseroedd penodol i bleidleisio.