Mae undebau’r GMB ac Unsain wedi cyhuddo Prifysgol De Cymru o ymddwyn yn anfoesol wrth gynllunio i gyflogi staff newydd ar llai o gyflog a’u rhoi ar gytundebau cyflogaeth israddol – a hynny ar adeg pan mae ganddyn nhw £100 miliwn wrth gefn yn y coffrau.
Bydd y newidiadau’n effeithio staff megis gweithwyr technoleg gwybodaeth, staff llyfrgelloedd a llety o Ragfyr y cyntaf.
Ni fydd staff academaidd yn cael eu heffeithio gan y newidiadau.
Mae gweithwyr wedi beirniadu’r brifysgol am gynllunio i greu is-gwmni fydd yn eiddo i Brifysgol De Cymru.
Maen nhw’n honni fod y brifysgol yn defnyddio tacteg busnes fydd yn ei chaniatáu i ostwng cyflogau ac amodau gweithio dros amser, gan wneud y gymuned leol a’r de yn dlotach.
Mae undebau’r GMB ac Unsain wedi ymateb yn chwyrn gan addo ennyn cefnogaeth myfyrwyr, y gymuned leol a gwleidyddion i wrthwynebu’r cynlluniau.
Dywed yr undebau bod Prifysgol De Cymru yn camarwain eu gweithwyr ynghylch y cynlluniau ac y gallai staff presennol gael eu trosglwyddo i’r cwmni newydd a’i gytundebau gwaith, lle mae dim ond un undeb lafur yn cael ei chydnabod.
“Mae hwn yn benderfyniad arswydus a diangen gan Brifysgol De Cymru,” meddai Pennaeth Addysg y GMB, Nicola Savage.
“Mae’r brifysgol wedi cadarnhau fod ganddi filiynau o bunnoedd wrth gefn.
“Bydd nifer o ein haelodau, sy’n rhan o Gynllun Pensiwn Llywodraeth Leol… bydd hyn yn cael effaith ddifrifol ar eu dyfodol.”
Dywed Ysgrifennydd Cangen Prifysgol De Cymru Unsain, Dan Beard: “Mae’r brifysgol yn ymddwyn yn warthus ac nid yw’n bod yn onest gyda staff am yr hyn mae’n ei gynnig.”
Prifysgol De Cymru yn “cadw’r holl opsiynau o dan adolygiad”
Mae Prifysgol De Cymru wedi ymateb drwy ddweud bod y “sector addysg uwch yn wynebu amseroedd ariannol ansicr.
“Rydym yn gweithio ar gynlluniau i sicrhau ein bod yn cynnal sylfaen ariannol gadarn ac yn gwarchod swyddi.
“Byddwn yn parhau i gadw’r holl opsiynau o dan adolygiad er mwyn cadw cyllid y brifysgol yn gryf.
“Ni fydd aelodau o staff presennol yn cael eu heffeithio, dim ond staff sy’n cael eu cyflogi ar ôl Rhagfyr 1.
“Rydym dal wedi ymrwymo i ddarparu amgylchedd gwaith positif i’n gweithwyr, cyfrannu i’r economi, yr ardal a chymunedau lleol.”