Mae Boris Johnson wedi mynnu y bydd rheilffordd newydd HS2 yn “allweddol i’n gwlad” wrth i’r gwaith adeiladu ar y prosiect ddechrau’n swyddogol.

Rhwydwaith o reilffyrdd cyflym rhwng Llundain, Birmingham, Dwyrain Canolbarth Lloegr, Leeds, a Manceinion fydd HS2.

Rhybuddiodd Adroddiad Oakervee y llynedd y gall cost derfynol HS2 gyrraedd £106 biliwn, yn unol â phrisiau 2019.

Er bod y prosiect am gostio biliynau ar filiynau dros y gyllideb a’i fod flynyddoedd yn hwyr yn dechrau, rhoddodd Prif Weinidog Prydain ganiatâd iddo fynd yn ei flaen fis Chwefror.

Ac er i Boris Johnson gydnabod fod llawer mwy o bobol yn gweithio o gartref yn sgil y pandemig,  honnodd y bydd rhwydweithiau trafnidiaeth yn parhau i fod yn bwysig am flynyddoedd.

“Credaf fod nifer o bobol wedi elwa o weithio o gartref.

“Ond nid oes gennyf amheuaeth y bydd rhwydwaith drafnidiaeth eang yn allweddol ar gyfer y wlad yn y degawdau nesaf, yn ogystal â nawr,” pwysleisiodd.

“Bydd y prosiect anhygoel hwn yn cyflogi 22,000 o bobol nawr, gan greu degau o filoedd o swyddi yn y degawdau nesaf.

“Mae rhwydweithiau trafnidiaeth wrth wraidd ein cynlluniau i gynnal ein hunan yn well, yn gynt ac yn wyrddach.”

 Adeg cyffroes yn y datblygiad

Bydd gwaith yn dechrau gyda’r heriau peirianyddol mwyaf, megis gorsafoedd a thwneli, cyn symud ymlaen at bontydd a thraphontydd.

Dywedodd Prif Weithredwr HS2 Ltd Mark Thurston fod hwn yn “adeg cyffroes iawn yn natblygiad HS2.”

“Ar ôl 10 mlynedd o ddatblygu a pharatoi, heddiw gallwn gyhoeddi yn swyddogol fod y gwaith adeiladu yn dechrau, gan greu miloedd o swyddi a chreu cyfleoedd i’r gadwyn gyflenwi.

“Eisoes rydym yn gweld sut fod economi gwledydd Prydain yn elwa yn y tymor byr drwy adeiladu HS2, ond mae’n bwysig pwysleisio pa mor drawsnewidiol fydd y rheilffordd i’n gwlad pan fydd y trenau yn rhedeg.”