Mae BAFTA Cymru wedi cyhoeddi enwebiadau ar gyfer Gwobrau’r Academi Brydeinig yng Nghymru.
Llwyddodd S4C i gael 17 o enwebiadau eleni, ac wrth longyfarch pawb sydd wedi eu henwebu dywedodd Cyfarwyddwr Cynnwys S4C, Amanda Rees: “Ry’n ni’n hynod falch o’r holl gynyrchiadau sydd wedi eu henwebu ar gyfer gwobrau anrhydeddus BAFTA Cymru 2020.”
“Ni fu erioed amser pwysicach i ddathlu yng Nghymru.”
“Mae’r BAFTA’s eleni yn arbennig o bwysig yn sgil y flwyddyn anodd mae’r diwydiant ffilm a theledu, a’r byd celfyddydol yn gyffredinol, wedi ei gael,” meddai Angharad Mair, cadeirydd BAFTA Cymru, wrth golwg360.
“Mae’n braf gweld talentau newydd, megis Sion Daniel Young, yn cael eu henwebu ochr yn ochr ag actorion fel Anthony Hopkins a Jonathan Pryce sydd wedi eu henwebu ar gyfer Oscars yn y gorffennol.”
Mae’r tri, ynghyd â Rob Brydon, wedi eu henwebu yn y categori Actor Gorau.
Dywedodd Angharad Mair fod y BAFTA’s yn ddathliad o dalent Cymraeg drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg, a’i bod yn wych cael dathlu rhagoriaeth rhaglenni, enwogion a thalentau Cymraeg S4C ar y cyd â rhaglenni Saesneg.
Ysbrydoli pobol ifanc
Er bod y seremoni ychydig yn wahanol eleni, ac yn cael ei chynnal ar-lein ar y 25ain o Hydref, bydd yn “gyfle i bawb fod yn rhan o’r dathlu gan fod pawb ymhell oddi wrth ei gilydd, ac yn yr un cwch,” ychwanegodd Angharad Mair.
“Rwyf yn falch fod y seremoni yn cael ei chynnal.
“Hoffwn annog pobol i ymuno yn y parti a’r dathlu, o fewn eu swigod cymdeithasol, gan rannu’r profiad gyda ni, a’i wneud yn achlysur cyffroes.”
Eglurodd ei bod yn gobeithio y bydd arddangos talent Cymreig a Chymraeg yn ysbrydoli pobol ifanc sydd â diddordeb mewn gweithio ym myd ffilm a theledu, gan ddangos iddynt fod cyfleoedd ar gael yng Nghymru.
“Methu credu’r peth”
Mae Hanna Jarman a Mari Beard wedi eu henwebu mewn dau gategori – Torri Trwodd ac Awdur – ar gyfer eu cyfres, Merched Parchus.
Wrth siarad gyda golwg360, dywedodd Hanna Jarman ei bod yn “gyted na fydda ni’n gallu mynychu seremoni go-iawn eleni, a ninnau wedi cael ein henwebu.
“Roedd yr enwebiad yn sioc, doeddwn i wir ddim wedi ei ddisgwyl. Ro’n i ar y trên ar y ffordd i’r gogledd pan wnaeth fy ffrind, Sion Young, sydd wedi ei enwebu ar gyfer ei ran yn The Left Behind, decstio fi’n dweud llongyfarchiadau.
“Doeddwn i methu credu’r peth.”
Yn debyg iawn, dywedodd Mari Beard wrth golwg360 fod yr enwebiad yn “sioc” ond ei bod yn hapus iawn pan glywodd y newyddion.
“Mae Merched Parchus yn agos at fy nghalon,” meddai.
Cymeriadau cynhenid Cymreig
Wrth eu holi am lwyddiant Merched Parchus, crybwyllodd y ddwy eu bod eisiau gallu uniaethu â’r gyfres a’r cymeriadau.
“Ro’n i eisiau portreadu merch anhoffus. Mae cymaint o ymgeision wedi bod i gyfleu cymeriadau benywaidd ‘cryf’ ond beth mae ‘cryf’ yn ei olygu yn y bôn?” gofynnodd Hanna Jarman.
“Cyn Merched Parchus doedd neb wedi gweld cymeriadau fel hyn yn unlle, boed ar raglenni Cymraeg neu rai Saesneg,” esboniodd Mari Beard.
“Mae’r cymeriadau yn rhai cynhenid Cymreig.”
Yn ôl Hanna Jarman, mae posib trin Caerdydd fel cymeriad ei hun yn y gyfres, a “gall pawb uniaethu â Chaerdydd, hyd yn oed os nad ydynt yn byw yno, mae gan bawb ryw fath o brofiad o’r ddinas.”
Er na fydd ail gyfres o Merched Parchus mae’r ddwy wedi bod yn cyd-ysgrifennu dros Zoom yn ystod y cyfnod clo, ac er ei bod yn anoddach ysgrifennu pwysleisiodd Hanna Jarman eu bod yn “lwcus iawn o fod yn gallu ysgrifennu o adre.”