Mae BAFTA Cymru wedi cyhoeddi enwebiadau ar gyfer Gwobrau’r Academi Brydeinig yng Nghymru.

Yn sgil y coronafeirws bydd y seremoni BAFTA Cymru 2020 yn cael ei chynnal ar lein fis Hydref.

Eglruodd Angharad Mair, Cadeirydd BAFTA Cymru er fod y fformat yn wahanol ma’n bwysig i anrhydeddu gwaith caled y diwydiannau creadigol.

“Mae’r flwyddyn hon wedi bod yn anodd i’r diwydiant teledu a ffilm, ond rydym wedi parhau i gynnig cymorth i’r rhai sy’n gweithio yn ein diwydiant”, meddai.

“Roeddem eisiau anrhydeddu’r rhai sydd wedi gweithio yn y diwydiannau creadigol, er gwaethaf yr heriau rydym oll wedi’u hwynebu, ac edrychwn ymlaen at ddathlu gyda’r enwebeion a’r enillwyr.”

Naw enwebiad i ‘His Dark Materials’

His Dark Materials sy’n arwain y ffordd eleni gyda naw enwebiad.

Mae’r gyfres wedi’i henwebu am y wobr ‘Drama Deledu’ ac mae’r actorion Dafne Keen a Ruth Wilson wedi’u henwebu am y wobr ‘Actores’.

Ymhlith yr enwebiadau eraill mae Hanna Jarman a Mari Beard wedi eu henwebu ar gyfer y wobr ‘Torri Trwodd’.

Mae ‘Tudur Owen; O Fôn i’r Lleuad; wedi ei enwebu ar gyfer y wobr ‘Rhaglen Ddogfen Unigol’ a rhaglenni Priodas Pum Mil a Heno wedi eu henwebu ar gyfer y wobr ‘Rhaglen Adloniant’.

Bydd y wobr Cyfraniad Eithriadol i Deledu yn cael ei gyhoeddi ar Hyfref 8.

Rhestr lawn o enwebiadau BAFTA Cymru:

Anthony Hopkins – The Two Popes

Actor

Anthony Hopkins Fel Pope Benedict Xvi yn The Two Popes

Jonathan Pryce Fel Cardinal Jorge Mario Bergoglio/Pope Francis yn The Two Popes

Rob Brydon Fel Rob yn The Trip To Greece

Sion Daniel Young Fel Gethin yn The Left Behind

Actores

Dafne Keen Fel Lyra Belacqua yn His Dark Materials

Gabrielle Creevy Fel Bethan Gwyndaf yn In My Skin

Ruth Wilson Fel Mrs Coulter yn His Dark Materials

Sally Hawkins Fel Jane yn Eternal Beauty

Merched Parchus

Torri Trwodd

Hanna Jarman A Mari Beard – Merched Parchus

Lisa Walters – On The Edge: Adulting

Martin Read – The Insomniacs

Sebastian Bruno A David Barnes The Dynamic Duo

CIC

Rhaglen Blant

Cic

Deian A Loli

Project Z

Dylunio Gwisgoedd

Caroline Mccall – His Dark Materials

Ray Holman – Fleabag

Sian Jenkins – Eternal Beauty

Tudur Owen; O Fôn i’r Lleuad

Cyfarwyddwr: Ffeithiol

Siôn Aaron A Timothy Lyn – Eirlys, Tim A Dementia

Marc Evans – The Prince And The Bomber

Mei Williams – Tudur Owen: O Fôn i’r Lleuad

Laura Martin Robinson – Warriors: Our Homeless World Cup

Cyfarwyddwr: Ffuglen

Craig Roberts – Eternal Beauty

Joseph Bullman – The Left Behind

Lee Haven Jones – Doctor Who (Spyfall Part 2)

Lucy Forbes – In My Skin

Golygu

Geraint Huw Reynolds – The Prince And The Bomber

Niven Howie A Stephen Haren – His Dark Materials

Rebecca Trotman – Doctor Who

Stephen Haren – Eternal Beauty

Priodas Pum Mil

Rhaglen Adloniant

Cyrn Ar Y Mississippi

Heno

Priodas Pum Mil

The Tuckers

Cyfres Ffeithiol

Cornwall: The Fishing Life

Wales: Land Of The Wild / Cymru Wyllt

Warriors: Our Homeless World Cup

Ysgol Ni: Maesincla

Colur A Gwallt

Jill Conway – The Left Behind

Melanie Lenihan – War Of The Worlds

Pamela Haddock – His Dark Materials

Newyddion A Materion Cyfoes

Flooding Strikes The South Wales Valleys

Wales Investigates Inside The UK’s Puppy Farm Capital

Y Byd Ar Bedwar

Cerddoriaeth Wreiddiol

Mark Thomas – Last Summer

Jonathan Hill – The Long Song

John Hardy Music – Steel Country

Karl Jenkins A Jody Jenkins – Wales: Land Of The Wild / Cymru Wyllt

Ffotograffiaeth A Goleuo: Ffuglen

Bjorn Bratberg Fnf – Bang

David Higgs – His Dark Materials

David Williamson – War Of The Worlds

Suzie Lavelle – His Dark Materials

Elis James – Funny Nation

Cyflwynydd

Carys Eleri yn Carys Eleri’n Caru

Elis James yn Elis James – Funny Nation

Emma Walford A Trystan Ellis-Morris Yn Prosiect Pum Mil

Hayley Pearce yn Hayley Goes…Sober

Dylunio Cynhyrchu

Arwel Wyn Jones – Dracula

Joel Collins – His Dark Materials

Tim Dickel – Eternal Beauty

Ffilm Fer

The Arborist

Creepy Pasta Salad

Pale Saint

Salam

Gareth Thomas HIV and Me

Rhaglen Ddogfen Unigol

Gareth Thomas: Hiv and Me

The Murder Of Jill Dando

The Prince And The Bomber

Tudur Owen; O Fôn i’r Lleuad

Sain

Alex Ashcroft – The Last Tree

Y Tîm Cynhyrchu – Good Omens

Y Tîm Cynhyrchu – Sex Education

Un Bore Mercher

Drama Deledu

His Dark Materials

In My Skin

The Left Behind

Un Bore Mercher / Keeping Faith

Awdur

Alan Harris – The Left Behind

Hanna Jarman A Mari Beard ar gyfer Merched Parchus

Kayleigh Llewellyn – In My Skin

Russell T Davies – Years And Years