Mae Ryan Giggs wedi dweud fod y gêm yn erbyn y Ffindir heno (Medi 3) yng Nghynghrair y Cenhedloedd yn gyfle i chwaraewyr osod eu marc.

“Mae rhai wynebau newydd, rhai hen wynebau, ac mae’n gyfle i chwaraewyr osod eu marc ar ddechrau deg mis mawr i ni fel carfan,” meddai Ryan Giggs ar ôl cyrraedd prifddinas y Ffindir.

“Yn amlwg rydyn ni eisiau ennill y gêm ond rydyn ni hefyd yn awyddus i arbrofi gyda’r hyn y gall chwaraewyr ei wneud ar y lefel yma.

“Mae wedi bod yn gwpl o ddiwrnodau da ac mae pawb yn edrych ymlaen at fynd yn ôl i chwarae pêl-droed rhyngwladol.”

Bydd Gareth Bale yn arwain Cymru yn y Stadiwm Olympaidd yn Helsinki gyda Ben Davies, Chris Gunter a Wayne Hennessey hefyd yn cynnig digon o brofiad.

Wedi’u cynnwys am y tro cyntaf yn y garfan genedlaethol mae’r amddiffynnwr canol Ben Cabango a’r cefnwr Neco Williams.

Gorau Chwarae Cyd Chwarae

Er mwyn annog y genhedlaeth nesaf penderfynodd Ryan Giggs ddod a’r tîm cyntaf a charfan dan-21 Cymru ynghyd yn y ganolfan hyfforddi ym Mro Morgannwg yr wythnos yma.

“Roeddwn i eisiau cael y teimlad hwnnw a gefais yn Manchester United,” meddai Ryan Giggs.

“Yn aml iawn byddai’r tîm ieuenctid yn gorffen cyn y tîm cyntaf ac yn dod draw i eistedd a gwylio ni.

“Eu nod nhw yw bod yn y tîm cyntaf. Maen nhw’n gweld y bechgyn yn hyfforddi a’r arferion da.

“Mae’n realistig y gallen nhw fod yn y tîm, boed hynny yn y chwe mis nesaf neu’r ddwy flynedd nesaf.

“Mae’n bwysig cael yr awyrgylch clwb hwnnw er mwyn paratoi’r bechgyn i gamu i fyny.”

Bydd tîm Ryan Giggs yn herio’r Ffindir oddi cartref ar heno (Medi 3) cyn croesawu Bwlgaria i Gaerdydd ar Fedi 6 yng Nghynghrair y Cenhedloedd.