Mae Cymdeithas yr Iaith yn cyhuddo Dafydd Elis-Thomas o wrthod cyfle i hyrwyddo’r Gymraeg fel iaith hamdden a chwaraeon.

Daw hyn yn sgil ei ymateb i gais ganddyn nhw am gefnogaeth i’w hymgyrch ‘Cymraeg Iaith Hamdden’ i normaleiddio’r Gymraeg fel prif gyfrwng chwaraeon a hamdden.

Dywed y Gymdeithas fod y Dirprwy Weinidog dros Ddiwylliant a Chwaraeon wedi rhoi gwybod iddyn nhw na fyddai’n gweithredu oherwydd nad yw’n credu mewn “gorfodaeth”.

Roedd yn dweud y byddai’n “groes i ethos y Cwricwlwm i Gymru” i annog ysgolion i ddysgu Addysg Gorfforol trwy gyfrwng y Gymraeg, a hynny am fod gan bob ysgol y “cyfle… i lunio ei chwricwlwm ei hun o fewn fframwaith cenedlaethol”.

‘Siom mawr’

Yn ôl Bethan Williams, llefarydd Grŵp Hamdden Cymdeithas yr Iaith, mae “ymateb negyddol” Dafydd Elis-Thomas yn destun “siom mawr”.

“Yr hyn sydd yn y llythyr sy’n dwyn ei enw yw ymateb nodweddiadol gwasanaeth sifil o ddisgrifio’n fanwl y sefyllfa bresennol heb ymrwymo i unrhyw fenter o’r newydd,” meddai.

“Dyma arwydd o lywodraeth nad sydd ag unrhyw egni ar ôl.

“Nid yn unig hyn, ond mae’r ffaith i’r Dirprwy Weinidog honni y byddai annog dysgu Addysg Gorfforol drwy gyfrwng y Gymraeg ‘yn mynd yn erbyn ethos’ y cwricwlwm newydd naill ai’n dangos ei fod wedi camddeall yr ethos hwn neu nad ydy’r ethos hwn yn ffit i bwrpas.

“Un o’n galwadau yn ein hymgyrch ‘Cymraeg Iaith Hamdden’ yw hybu symudiad at ddysgu Chwaraeon trwy gyfrwng y Gymraeg ym mhob ysgol yng Nghymru – byddai pob ysgol yn cael ei roi ar un gontinwwm tuag at gyrraedd y nod hwn, ac fe fyddai hyfforddiant mewn swydd ar gael i athrawon er mwyn hwyluso hyn.

“Mae’n galwadau felly yn gwbl gyraeddadwy ac mae’n hynod siomedig nad yw’r Llywodraeth wedi dangos unrhyw ewyllys gwleidyddol yma.”

Beirniadu’r Llywodraeth

Yn ôl Bethan Ruth, cadeirydd Cymdeithas yr Iaith, mae gan Lywodraeth Cymru “agwedd laissez-faire“.

“Mae’n wir y bydd y cwricwlwm newydd yn caniatáu i ysgolion gyflwyno Addysg Gorfforol a phynciau eraill yn eu ffordd eu hunain, ond byddai trefnu fod y Gymraeg yn gynyddol ddod yn gyfrwng yr addysg yn rhan o fframwaith cenedlaethol honedig y Llywodraeth o hyrwyddo’r Gymraeg, a chyfrifoldeb y Llywodraeth yw hyfforddi’r gweithlu i gyflawni hyn,” meddai.

“Yr un modd, mae’r Dirprwy Weinidog yn gwrthod hyd yn oed wneud datganiad yn annog Cyrff Chwaraeon Cenedlaethol i wneud y Gymraeg yn iaith gynyddol chwaraeon.

“Ac ar ben hyn, mae gan y Dirprwy Weinidog agwedd laissez-faire wrth beidio â hybu mentrau cydweithredol a allent ddarparu gwaith i Gymry ifanc ym maes gweithgraeddau awyr agored gan fanteisio ar adnoddau naturiol ein gwlad.

“Yn lle hynny, mae’r gweision sifil yn crybwyll fod nifer o grantiau potensial a allent o bosibl fod yn berthnasol.

“Dyma lywodraeth sydd wedi blino, ac sydd heb unrhyw awydd i weithredu’n bendant er bod cymaint o bobl ifanc yn gorfod ymadael â’u cymunedau, ac er bod yr iaith Gymraeg dan gymaint o bwysau.

“Galwn ar bleidiau gwleidyddol sydd ag uchelgais i fod yn rhan o’r llywodraeth nesaf i fabwysiadu agwedd mwy cadarnhaol at y cynigion hyn a allent gryfhau’r iaith a chynnig gwaith i bobl yn eu cymunedau.”

Ymateb Llywodraeth Cymru

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru:

“Nid ydym yn derbyn sylwadau’r Gymdeithas. Mae’r Dirprwy Weinidog wedi ymateb i’w phryderon, gan roi sylw manwl i bob pwynt.

“Mae’r llywodraeth hon yn gwbl ymroddedig i gynyddu’r defnydd o’r Gymraeg ym mhob agwedd ar fywyd Cymru, ac mae ganddi bolisïau i gefnogi ein huchelgais i ddatblygu’r Gymraeg a chyrraedd ein targed ein hunain o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.”