Mae Donald Trump wedi annog ei gefnogwyr sy’n pleidleisio drwy’r post i bleidleisio ddwywaith yn yr etholiad arlywyddol – a’i esgus dros hynny yw er mwyn “gwirio” y system pleidleisio post.

“Fe fyddan nhw’n mynd allan a byddan nhw’n pleidleisio ac mae’n rhaid iddyn nhw fynd i wirio eu pleidlais trwy fynd i’r orsaf bleidleisio a phleidleisio felly”, meddai’r arlywydd tra’n ymweld â Gogledd Carolina.

“Ac os yw eu system gystal ag y dywedant ei bod, yna yn amlwg ni fyddant yn gallu pleidleisio.

“Os nad yw’n ddiffygiol, byddant yn gallu pleidleisio. Felly dyna’r ffordd y mae, a dyna beth ddylen nhw ei wneud.”

‘Problemau mawr, mawr’

Roedd Kayleigh McEnany, ysgrifennydd y wasg y Tŷ Gwyn, wedi mynnu yn gynharach yr wythnos yma nad oedd “pwrpas gwleidyddol” i’r ymweliad â Gogledd Carolina, ond doedd yr arlywydd ddim am golli’r cyfle i feirniadu ei wrthwynebydd Joe Biden.

“Dyma’r etholiad pwysicaf yn hanes ein gwlad. Dwi wir yn credu hynny, oherwydd rydyn ni’n rhedeg yn erbyn pobol sydd â rhai problemau mawr”, meddai’r arlywydd.

“Mae ganddyn nhw broblemau mawr, mawr. Maen nhw’n wallgof. ”

Enillodd Donald Trump Ogledd Carolina o 3.6% yn 2016, ond mae arolygon barn yn dangos bydd hi hyd yn oed agosach yno eleni.