Mae cwmni Amazon am greu 7,000 o swyddi newydd ar draws gwledydd Prydain yn y misoedd nesaf er mwyn ateb galw cwsmeriaid, gyda dros 200 o’r swyddi parhaol hyn yng Nghymru.
Dywedodd Amazon wrth golwg360 fod hyn yn cynnwys 200 o swyddi yn y ganolfan yn Abertawe, tua 20 yn eu safle danfon yng Nghasnewydd, a thua 20 yn eu safle danfon ym Mhort Talbot.
Mae’r ganolfan yn Abertawe yn cyflogi oddeutu 1,000 o bobol mewn swyddi parhaol ar hyn o bryd.
Ynghyd â hyn, bydd Amazon yn creu 20,000 o swyddi tymhorol ar draws y DU cyn y Nadolig, gyda thua 500 o’r rhain yng Nghymru – 400 yn Abertawe, ac oddeutu 80 yng Nghasnewydd.
Meddai Stefano Perego, is-lywydd boddhad cwsmeriaid Amazon yn Ewrop, “Mae ein gweithwyr wedi chwarae rhan allweddol yn gwasanaethu cwsmeriaid dros y cyfnod hwn, a bydd y swyddi newydd yn caniatáu i ni barhau i ateb galw cwsmeriaid a chefnogi busnesau bach a chanolig eu maint sydd yn gwerthu ar Amazon.”
Cyflogi 10,000 yn rhagor
Bydd y swyddi parhaol newydd wedi eu lleoli ar draws oddeutu 50 lleoliadau ledled Prydain.
Ers dechrau’r flwyddyn mae’r cwmni eisoes wedi cyflogi 3,000 o weithwyr newydd, felly erbyn diwedd 2020 bydd 10,000 o staff ychwanegol ar draws Prydain.
Mae’n golygu y bydd 40,000 o weithwyr parhaol yn gyflogedig gan Amazon ym Mhrydain erbyn diwedd y flwyddyn.
Bydd y swyddi newydd yn cynnwys gweithio yn y warysau, y canolfannau dosbarthu a’r safleoedd danfon, ynghyd â mewn swyddfeydd.
Dywedodd Amazon y bydd yr apwyntiadau newydd yn cynnwys peirianwyr, graddedigion, gweithwyr adnoddau dynol, TG, iechyd a diogelwch, ac arbenigwyr cyllid, yn ogystal â staff fydd yn casglu, paratoi a dosbarthu archebion.
Mae Amazon eisoes wedi cynnig swyddi dros dro i filoedd o bobol yn ystod y pandemig, a bydd nifer ohonynt yn cael cynnig swyddi parhaol nawr.