A hithau’n fis Medi, mae ymchwilwyr sy’n ceisio achub un o siarcod prinnaf y byd yn cychwyn ar astudiaeth DNA yng ngogledd Bae Ceredigion i ddeall mwy am bresenoldeb y rhywogaeth gydol y flwyddyn.
Yn ystod mis Awst cafodd cynllun gweithredu pum mlynedd i ddiogelu’r maelgi ei lansio.
Cymru yw un o’r unig fannau yng ngogledd-orllewin Ewrop lle y mae’r maelgi, sydd mewn perygl difrifol o ddiflannu, wedi’i weld yn rheolaidd dros y degawd diwethaf.