Wel dyma ni, wythnos arall o wrando ar bobl yn dadlau am bob dim. Ni’n byw yng nghanol rhaglen ddiddiwedd o Pawb a’i Farn heb Dewi Llwyd. Mae’r cyfryngau wedi rhoi’r llwyfan i amryw bobl nawddoglyd a difrifol tu hwnt sydd yn meddwl ein bod ni ishe clywed eu clochdar nhw, ac ishe ein hargyhoeddi eu bod nhw’n gwybod yn gwmws beth sy’n mynd ymlaen. A hynny ar ganol cyfnod pan mae’r unig beth sydd yn sicr yw nad oes neb yn gwybod beth sydd yn mynd ymlaen. Ond yffach ma’ nhw yn mwynh