Tros y Sul bu criw Gwrthryfel Difodiant – Extinction Rebellion – yn cynnal protestiadau yn y gogledd, a bu protest fawr yng Nghaerdydd ddechrau’r wythnos hon.

Maen nhw yn pwyso ar Lywodraeth Prydain i basio Deddf Argyfwng Hinsawdd ac Ecolegol er mwyn sefydlu economi dim-carbon sy’n creu swyddi.