Bydd yr operâu sebon poblogaidd Rownd a Rownd a Pobol y Cwm yn dychwelyd i S4C yr wythnos nesaf.

Cafodd y cyfresi eu gohirio ym mis Mawrth oherwydd y pandemig.

Ail-ddechreuodd ffilmio’r cyfresi ddechrau mis Awst a bydd y ddwy raglen yn dychwelyd i’n sgriniau nos Fawrth nesaf (Medi 8).

Er bod tîm cynhyrchu Rownd a Rownd wedi penderfynu peidio cyfeirio at Covid-19 fe fydd sôn am y pandemig yn Pobol y Cwm.

Trigolion Cwmderi dan glo

“Ynghyd â’r genedl gyfan mae trigolion Cwmderi wedi bod dan glo ond mae caru, cyfrinachau a chambihafio yn dal i barhau tu ôl i ddrysau caëdig”, meddai Gwen Roberts, cynhyrchydd y gyfres Pobol y Cwm.

Eglurodd Manon Lewis Owen, cynhyrchydd Rownd a Rownd iddyn nhw benderfynu peidio cyfeirio at Covid-19 yn y gyfres oherwydd ei bod nhw’n ffilmio cymaint ymlaen llaw.

“Gyda’r sefyllfa Covid yn newid yn gyflym iawn, roeddwn yn poeni y byddai’n dyddio ac yn edrych yn chwithig ar sgrîn”, meddai.

Newidiadau sylweddol

Er hyn ôl Manon Lewis Owen, mae Covid-19 wedi arwain at newidiadau sylweddol i gynhyrchu’r gyfres.

“Yn wreiddiol roedd mwyafrif y setiau ym Mhorthaethwy yn unig, ond oherwydd y sefyllfa Covid – daeth yn amlwg bod y set yn rhy fach i ffilmio o dan yr amodau newydd yn enwedig gyda dau griw wrth y llyw.”

Bu rhaid i gwmni teledu Rondo, sy’n cynhyrchu Rownd a Rownd adeiladu setiau newydd  yn Llangefni ac yng Nghaernarfon.

“Mae’r actorion wedi bod yn arbennig o dda gyda’r weithdrefn newydd”, meddai Manon Lewis Owen.

“Maen nhw wedi ysgwyddo lot mwy o’r cyfrifoldebau ar y set. Maen nhw’n gorfod gwneud colur eu hunain – mae trefn y gwisgoedd llawer fwy gofalus hefyd ac unwaith eto mae tipyn mwy o gyfrifoldeb ar yr actorion.”

Mali Harries sy’n chwarae rhan Jaclyn Parri
Mali Harries sy’n chwarae rhan Jaclyn Parri

“Mae lot o gyfrifoldebau gyda ni nawr – dim jysd actio.”

Eglurodd Mali Harries, sy’n chwarae rhan Jaclyn Parri yn Pobol y Cwm ei bod hi wrth ei bodd yn cael gweithio eto.

“Mae’n fraint cael bod yn ôl – da ni wedi bod mor hir yn aros,” meddai.

“Ac mae teimlad twymgalon, gofalus a hapus iawn ar y set – mae pawb yn ofalus iawn o’i gilydd.”

Yn ôl Mali Harries mae pethau wedi newid yn fawr iawn ar y set er mwyn cadw’r actorion a’r criw yn ddiogel.

“Mae lot o gyfrifoldebau gyda ni nawr – dim jysd actio.

“Pan da ni’n cyrraedd y stiwdio, mae rhaid cymryd tymheredd a dilyn y system unffordd i gerdded trwy’r adeilad i gyrraedd yr ystafelloedd newid

“Maen nhw’n strict iawn ynglŷn â props hefyd. Mae gennym ni bocs props ein hunain. Rydych chi’n gyfrifol am dy focs props – glanhau a sychu’r props a rhoi yn ôl yn y bocs ar ddiwedd y dydd.”