Pe bai refferendwm ar annibyniaeth i Gymru’n cael ei gynnal yfory, byddai mwy o bleidleiswyr Llafur yn pleidleisio o blaid annibyniaeth nag a fyddai’n pleidleisio yn erbyn.

Dyma yw un o gasgliadau mwyaf arwyddocaol arolwg barn newydd gan YouGov ar ran YesCymru.

Ar ôl eithrio’r rhai na wnaeth ateb, nad oedd yn gwybod, neu na fyddai’n pleidleisio, dywedodd 51% o’r rhai a bleidleisiodd dros y Blaid Lafur yn 2019 y bydden nhw’n pleidleisio dros annibyniaeth, a 49% yn erbyn.

Drwyddi draw mae’r nifer sydd o blaid annibyniaeth yn parhau ar 32% o blaid a 68% yn erbyn.

Roedd cefnogaeth gref i annibyniaeth ymysg etholwyr iau, gyda 43% o’r ymatebwyr rhwng 18 a 24 oed a 42% o’r ymatebwyr rhwng 25 a 49 oed yn dweud y bydden nhw’n pledidleisio dros annibyniaeth.

Roedd mwyafrif o’r ymatebwyr hefyd o’r farn mai Senedd Cymru ddylai fod â’r hawl i alw refferendwm ar annibniaeth.

Ac eithrio’r rhai nad oedd yn gwybod, roedd 55% o ymatebwyr o blaid hawliau o’r fath i’r Senedd a 45% yn erbyn.

Ffigurau ‘anhygoel’

Dywedodd Siôn Jobbins, Cadeirydd YesCymru:

“Mae’r ffigyrau yma’n anhygoel. Mae’n glir bod cefnogwyr Llafur bellach yn cychwyn cefnogi annibyniaeth o ddifrif ac yn ystyried mai annibyniaeth sy’n cynnig y gobaith mwyaf er mwyn creu Cymru sy’n lle gwell i fyw ynddi, ac i amddiffyn pobl Cymru rhag polisïau San Steffan.

“Dim ond edrych o’n cwmpas sydd angen i ni wneud i weld y methiannau llwyr sydd o gael ein rheoli gan San Steffan, er bod Cymru yn gyfoethog o ran adnoddau. 

“Dim ond o wneud penderfyniadau am Gymru yma yng Nghymru y gallwn ni roi blaenoriaeth i hapusrwydd a lles pobl gyffredin Cymru mewn polisïau llywodraethol. 

“Mae pobl Cymru hefyd wedi gweld bod 55% o bobl yr Alban o blaid annibyniaeth ac y bydd yr SNP yn cynnal refferendwm ar annibyniaeth. All Cymru ddim fforddio claddu ei phen yn y tywod. Mae angen cynllun ar y Senedd er mwyn rhoi’r dewis i Gymru allu cynnal pleidlais ar annibyniaeth.”

‘Mwyafrif yn dal i gefnogi’r Undeb’

Wrth ymateb i ganlyniadau’r arolwg, dywedodd llefarydd ar ran Democratiaid Rhyddfrydol Cymru:

“Mae’r arolwg newydd yn hwn yn dangos bod pob grwp oedran a demograffig yng Nghymru yn dal i gefnogi’r Undeb [â Phrydain].

“Yn lle mynd ati i geisio nod rhanedig ac afrealistig annibyniaeth, dylem fod yn gweithio gyda’n gilydd i ddiwygio’r Deyrnas Unedig ac adeiladu teulu tecach a mwy cyfartal o genhedloedd.”