Mae disgwyl i ragor o gyfyngiadau teithio gael eu cyflwyno, ac i Wlad Groeg a Portiwgal gael eu hychwanegu i restr cwarantin y Deyrnas Unedig.
Dywed yr Ysgrifennydd Gwladol Matt Hancock y bydd penderfyniad ar ychwanegu’r gwledydd i’r rhestr cwarantin yn cael ei wneud ddydd Gwener (Medi 4).
Daw hyn ar ôl i Lywodraeth Cymru ofyn i bobol sy’n teithio o ynys Zante yng Ngwlad Groeg i Gymru hunanynysu am 14 diwrnod.
Ond mae Gwlad Groeg yn mynnu ei fod yn gwneud “popeth o fewn ein gallu” i gadw pobol ar eu gwyliau yn saff.
Ym Mhortiwgal, mae graddfa achosion coronaferiws y daith diwrnod diwethaf yn 22.7 ymhob 100,000 o’i gymharu â 14.2 am yr wythnos flaenorol.
Yng Ngwlad Groeg roedd yno 14.3 o achosion ymhob 100,000 yn y saith diwrnod hyd at Fedi 1, sydd i fyny o 14.1 wythnos ynghynt.
Pryder am rai fu yn Zante
Yn dilyn adroddiadau fod unigolyn sydd wedi dychwelyd o Zante wedi bod yn rhai o dafarndai ardal Maesteg dros y penwythnos, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ac Iechyd Cyhoeddus Cymru yn annog pobol ifanc yr ardal i fod yn ofalus.
“Rydym yn ymwybodol o straeon ar gyfryngau cymdeithasol am unigolion yn ardal Maesteg sydd wedi dychwelyd o Zante ac sydd o bosibl yn dangos symptomau Covid-19”, meddai Llefarydd ar ran Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.
Daw’r cyhoeddiad ar ôl i o leiaf 16 o bobol a oedd ar daith Tui 6215 o Zante i Gaerdydd ddydd Mawrth diwethaf (Awst 25) brofi’n bositif ar gyfer Covid-19.
Roedd awyren a ddychwelodd i Gaerdydd o ynys Zante yng ngwlad Groeg yr wythnos ddiwethaf yn “llawn covidiots hunanol a chriw di-glem” yn ôl un o’r teithwyr ar ei bwrdd.