Roedd awyren a ddychwelodd i Gaerdydd o ynys Zante yng ngwlad Groeg yr wythnos ddiwethaf yn “llawn covidiots hunanol a chriw di-glem” yn ôl un o’r teithwyr ar ei bwrdd.

Mae pawb o’r 193 o bobl a oedd ar daith Tui 6215 ddydd Mawrth diwethaf yn cael eu rhybuddio i hunanynysu, ar ôl i 16 o achosion o’r coronafeirws sy’n gysylltiedig â’r teithwyr gael eu cadarnhau.

Yn ôl Dr Gwen Lowe, ymgynghorydd rheoli clefydau i Iechyd Cyhoeddus Cymru, roedd saith o’r achosion hynny yn heintus, neu â’r potensial o fod yn heintus’ ar y daith.

Dywed fod tua 30 o achosion yng Nghymru ymysg pobl sydd wedi dychwelyd o Zante dros yr wythnos ddiwethaf:

“Mae’r rhain yn cynnwys pobl ar wahanol awyrennau ar wahanol ddyddiau yn aros mewn gwahanol leoliadau,” meddai. “Mae’r rhain yn achosion positif sydd wedi eu cadarnhau ac rydym yn disgwyl i’r nifer hwnnw godi.”

‘Anwybyddu’r rheolau’

Fe fu Stephanie Whitfiel, un o’r teithwyr ar yr awyren Tui ddydd Mawrth, yn trafod ei phryderon ar raglen Today ar Radio 4 y bore yma.

“Roedd llawer o’r teithwyr fel pe na baen nhw’n gwybod sut i wisgo masgiau yn iawn, neu roedden nhw’n anwybyddu’r rheolau,” meddai.

“Roedd llawer o’r bobl yn gwisgo eu masgiau o dan eu trwynau neu hyd yn oed o dan eu gên. Roedden nhw’n tynnu eu masgiau i siarad gyda ffrindiau ac yn cerdded yn ôl ac ymlaen i siarad gyda’u ffrindiau heb eu masgiau.”

Roedd hi hefyd yn feirniadol o’r criw:

“Roedd dyn yn eistedd wrth fy ochr gyda’r masg am ei ên ar hyd y daith, ac ni ddywedodd y stiwardes ddim byd wrtho am hyn wrth siarad ag ef,” meddai.

“Roedd yr awyren yn llawn ‘covidiots’ hunanol a chriw di-glem a oedd yn gwbl ddi-hid.”

Cyn cyrraedd Caerdydd, penderfynodd hi a’i gwr hunanynysu, ac fe fyddan nhw’n mynd am brawf yfory.

Cadarnhaodd llefarydd ar ran Tui eu bod, ar gais Iechyd Cyhoeddus Cymru, wedi cysylltu â phob teithiwr ar yr awyren o Zante i Gaerdydd ddydd Mawrth diwethaf.

“Diogelwch a lles ein teithwyr a’n criw yw ein blaenoriaeth uchaf ac rydym yn gweithredu pob taith yn unol â chanllawiau Asiantaeth Diogelwch Awyrennau’r Undeb Ewropeaidd (EASA),” meddai.

Ychwanegodd fod gwisgo masgiau yn un o amodau teithio’r cwmni.